– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 16 Mai 2017.
Eitem 4 ar ein hagenda yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar arweinyddiaeth addysgol, ac rwy’n galw ar Kirsty Williams i gyflwyno'r datganiad.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wrth ystyried yr ysgolion rhagorol yr wyf wedi cael y fraint o ymweld â nhw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'n amlwg i mi fod pob un yn elwa ar arweinyddiaeth o ansawdd uchel. Ein her ni, fel y nodwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yw sicrhau dull system gyfan o weithredu arweinyddiaeth, a gwneud hynny’n brif sbardun ein diwygiadau addysg. Er mwyn llwyddo, mae angen arweinwyr ysbrydoledig ar bob ysgol, a chredaf fod sefydlu ein hacademi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol yn gam pwysig ymlaen. O’i osod ochr yn ochr â safonau proffesiynol newydd, diwygio addysg gychwynnol athrawon a diwygio cwricwlwm, mae'n rhan o ddull cydlynol a chydweithredol o ddatblygu arweinyddiaeth.
Ers cyhoeddi sefydlu bwrdd cysgodol yr academi fis Tachwedd diwethaf, rwyf wedi cael fy nghalonogi yn fawr gan y cynnydd a wnaed mewn cyfnod byr o amser. Mae'r bwrdd cysgodol, dan arweiniad Ann Keane, wedi profi i fod yn broffesiynol, yn frwdfrydig ac yn ymroddedig i'r dasg hon. I fod y gorau, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ni ddysgu oddi wrth y gorau, ac, felly, rwy’n falch eu bod wedi ystyried enghreifftiau rhyngwladol o ddatblygu arweinyddiaeth, o rai o'r systemau addysg sy'n perfformio orau yn y byd, megis Canada, Singapore a Seland Newydd. Ac maent yn glir: mae'n rhaid i ni adeiladu ar dystiolaeth ryngwladol er mwyn creu dull a wnaed yng Nghymru. Mae'r bwrdd wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch diffinio gweledigaeth, gwerthoedd a swyddogaeth yr academi, ynghyd â llywodraethu ei strwythur sefydliadol.
Wrth ganolbwyntio ar arweinyddiaeth dysgu, gan gefnogi pedwar diben ein cwricwlwm newydd, mae’r academi wedi gosod gweledigaeth i fod: yn gynhwysol a chydweithredol, gan alluogi mynediad teg at gyfleoedd, yn eiddo i'r sector, ac yn ganolog i ddatblygu arweinyddiaeth gydweithredol a arweinir gan ddiwylliant; yn ysbrydoledig ac ysgogol, gan hyrwyddo datblygiad arweinyddiaeth wych yn awr ac yn y dyfodol, gan gysylltu yn gydlynol â’r agenda ddiwygio genedlaethol; yn meithrin gallu, gan alluogi arweinyddiaeth i ffynnu, a grymuso arweinwyr, a sicrhau ein cyflenwad o arweinwyr yn y dyfodol; a chael ansawdd ac effaith, gan wneud swyddogaeth arweinyddiaeth yn glir, a'r gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i’n system, ac ategu hynny gydag ymchwil a sylfaen dystiolaeth gref.
Mae'r bwrdd wedi cyrraedd consensws unfrydol y dylai'r academi fod yn gwmni cyfyngedig drwy warant. Byddai hyn yn galluogi strwythur llywodraethu hyblyg, sy'n gallu diwallu cynrychiolaeth sector yn well, a fyddai'n cael ffurf gyfreithiol a ffafrir gan y Comisiwn Elusennau, ac a allai gyflogi staff yn ei enw ei hun. Rwyf felly wedi dweud wrth swyddogion i ddechrau cwmpasu’r amserlen a'r adnoddau sydd eu hangen i sefydlu'r academi, yng ngwanwyn 2018, fel cwmni cyfyngedig trwy warant. Rwy’n disgwyl iddo fod yn sefydliad bach a hyblyg, gyda bwrdd strategol bach, ac yn cael ei arwain gan brif weithredwr. Byddwn yn parhau i ymgynghori ar swyddogaeth a chylch gwaith llawn yr academi, a phrofi'r amserlenni ar gyfer y camau nesaf. Bydd cyfres o sioeau teithiol rhanbarthol yn digwydd fis nesaf, a byddwn yn annog rhanddeiliaid i fynd iddynt a dysgu mwy, ac i roi eu hadborth.
Fy mwriad i, yn seiliedig ar gyngor y bwrdd cysgodol, yw y bydd yr academi yn broceru ac yn sicrhau ansawdd ystod o raglenni, yn cael rhan i sicrhau darpariaeth ar draws y rhanbarthau, yn cefnogi arweinyddiaeth ar bob lefel, ac yn gweithio gydag eraill i nodi a chefnogi arweinwyr y presennol a'r dyfodol. Rwyf wedi dweud lawer gwaith yn y Siambr hon, a'r tu allan, na all ansawdd ein system addysg ragori ar ansawdd ein hathrawon. Dros y pum mlynedd nesaf, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu dull cenedlaethol o ddysgu proffesiynol gydol gyrfa sy'n meithrin capasiti o addysg gychwynnol athrawon ac sy’n rhan annatod o waith ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth o fewn system hunanwella i ysgolion.
Fy ngweledigaeth ar gyfer dysgu proffesiynol yw un lle mae ymgysylltu gweithredol mewn dysgu proffesiynol yn gyfrifoldeb sylfaenol pob unigolyn, a'i ddiben yw datblygu arbenigedd unigol ac ar y cyd i godi safonau ar gyfer ein holl ddysgwyr. Caiff yr effaith honno ei gweld wrth ymgorffori’r pedwar diben cwricwlwm i mewn i ddysgu a phrofiad ein holl ddysgwyr. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddulliau sy'n gydweithredol, cydlynol ac arloesol, sydd hefyd yn cael eu harwain gan ymchwil.
Bydd y safonau addysgu proffesiynol newydd arfaethedig yn dwyn ynghyd safonau ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth er mwyn adlewyrchu llwybrau gyrfa gwell o fynediad i mewn i'r proffesiwn ac ymlaen ac mewn ffordd sy'n rhoi eglurder o ran disgwyliadau. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n dewis canolbwyntio ar eu harfer yn yr ystafell ddosbarth a'r rhai sy'n dewis symud i swyddogaethau arweinyddiaeth mwy ffurfiol, hyd at, ac yn cynnwys, prifathrawiaeth. Mae'r safonau arfaethedig yn seiliedig ar bum maes ymarfer: addysgeg, cydweithredu, arloesi, dysgu ac arweinyddiaeth broffesiynol. Bydd arweinyddiaeth yn un o'r pum maes ymarfer ar gyfer pob athro yn y safonau newydd arfaethedig. Mae pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol ar bob lefel yn hanfodol os ydym am wella ansawdd addysgu a gwella canlyniadau i ddysgwyr.
Mae cynnydd hefyd wedi ei wneud o ran y ddarpariaeth bresennol. O ran prifathrawiaeth, rydym wedi gweithio gyda chonsortia ac rydym wedi gwella'r cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth. Mae carfan bresennol o ymarferwyr yn mynd trwy'r rhaglen hon a byddaf yn gofyn am eu barn am y gwelliannau pellach y bydd angen i ni eu gwneud. Er fy mod yn cydnabod nad yw recriwtio penaethiaid heb ei broblemau mewn rhai ardaloedd, nid wyf yn barod i gyfaddawdu ar ansawdd newydd-ddyfodiaid i brifathrawiaeth yng Nghymru. Rwy’n credu bod angen gosod safon uchel ar gyfer y rhai yr ydym yn ymddiried arweinyddiaeth ein hysgolion ynddynt. Felly, er fy mod yn cydnabod bod angen i'r CPCP ddatblygu, rwy’n glir y dylem gynnal y gofyniad a'i gadw fel trothwy ar gyfer mynediad i brifathrawiaeth.
Rydym hefyd wedi bod yn gwella ystod o raglenni arweinyddiaeth ar gyfer penaethiaid ac arweinwyr canol i sicrhau bod gennym gynnig gwell a chydlynol ar draws Cymru. O fis Medi 2017 ymlaen bydd gennym amrywiaeth o raglenni cyffredin, ac, unwaith eto, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr yn ddiweddarach.
Bydd sefydlu academi genedlaethol o arweinyddiaeth addysgol, ochr yn ochr â safonau arweinyddiaeth broffesiynol newydd wedi’u halinio i safonau addysgu proffesiynol, yn sicrhau bod arweinwyr ar bob lefel yn cael eu cefnogi'n dda i ddatblygu ac ysbrydoli cydweithwyr ac i gydweithio er mwyn ymgorffori'r cwricwlwm newydd. Gyda'i gilydd, bydd y diwygiadau hyn yn sbarduno ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sydd yn destun balchder cenedlaethol a hyder cenedlaethol.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am roi cipolwg o’r datganiad hwn inni cyn iddi wneud hynny yn y Siambr y prynhawn yma? Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod yr academi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth yn rhywbeth yr oeddem yn ei gefnogi yn fawr iawn pan gyhoeddodd hi hynny ym mis Tachwedd y llynedd. Os oes unrhyw feirniadaeth, mae'n ymwneud â'r cyflymder, mewn gwirionedd, o gyflawni yn erbyn y cyhoeddiad hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, rydych wedi cyfeirio heddiw at y ffaith na fydd y peth hwn mewn gwirionedd ar waith tan y gwanwyn 2018. Nid yw hynny'n swnio fel y math o gyflymder sydd ei angen arnom er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau gwirioneddol sydd gennym wrth gyflwyno arweinyddiaeth o ansawdd uchel yn y system addysg yng Nghymru.
Ddoe ddiwethaf, clywsom rai o'ch uwch swyddogion yn dweud wrth un o bwyllgorau'r Cynulliad fod rhai arweinwyr mewn ysgolion yng Nghymru yn euog o hapchwarae’r system arholiadau—peidio â gadael i bobl ifanc, o bosibl, gyrraedd y graddau uwch hynny a cheisio bancio graddau is. Credaf fod hynny, yn wir, yn crynhoi system nad yw'n caniatáu i bawb gyflawni eu potensial. Rwy’n gwybod bod gennych rai pryderon am hynny, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech, efallai, roi sylwadau ar hynny mewn ymateb i bopeth sydd gennyf i’w ddweud.
Wrth gwrs, mae gennym arweinyddiaeth ragorol. Rydych chi wedi cyfeirio at y ffaith eich bod wedi ymweld â llawer o ysgolion eisoes ac wedi gweld yr arweinyddiaeth honno—mae gennyf rywfaint o arweinyddiaeth ragorol yn fy etholaeth fy hun. Yna, wrth gwrs, ceir enghreifftiau o arweinyddiaeth wael ledled Cymru. Un peth na wnaethoch gyfeirio ato yn eich datganiad oedd ceisio troi rhywfaint o'r arweinyddiaeth dda sydd gennym yn ein sectorau prifysgol ac addysg bellach i mewn i'n hysgolion, ac a allai fod swyddogaeth i’r academi arweinyddiaeth genedlaethol wrth helpu i hwyluso hynny. Rwy'n gwybod, unwaith eto, fod rhywfaint o groesi cleddyfau wedi bod am hyn yn y gorffennol. Ond mae ein colegau addysg bellach yn benodol, yn fy marn i, yn dangos sut y gallwch gynnal sefydliadau mawr eithaf sylweddol sydd eisoes â rhywfaint o gydweithio gyda'n hysgolion uwchradd, a does dim rheswm—ni allaf weld unrhyw reswm—pam na ddylai rhywfaint o'r arweinyddiaeth honno fod yn dylanwadu ar ein hysgolion uwchradd yn benodol. Wrth gwrs, yn ogystal â hyn, mae gennym rywfaint o gydweithio da iawn bellach o ran modelau ffederal—ffederasiynau o ysgolion—o gwmpas Cymru. Ond tybed a yw clystyru ysgolion at ei gilydd gydag arweinyddiaeth gref yn ffordd bosibl arall ymlaen ac, unwaith eto, a fydd yr academi arweinyddiaeth genedlaethol yn gallu cael rhywfaint o fewnbwn i mewn i hynny.
Sylwaf eich bod yn dweud y bydd y bwrdd cysgodol a'r academi yn broceru ac yn sicrhau ansawdd ystod o raglenni yn y dyfodol. Tybed sut byddai hynny'n rhan o’r trefniadau presennol. Yn amlwg, mae gennym Gyngor y Gweithlu Addysg, mae gennym Estyn ac eraill, i gyd â diddordeb yn y maes hwn. Mae'n ymddangos i mi fod angen cael rhyw fath o ddull cydweithredol.
Rydych wedi sôn am y ffaith ein bod ni'n mynd i gael bwrdd, ac rydych am iddo fod yn fwrdd bach, ond mae'n amlwg bod llawer o randdeiliaid a fydd â diddordeb mewn gwneud yn siŵr bod y bwrdd yn gweithio'n gywir. Rydym wedi gweld byrddau’n cael eu sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol ac mae pethau’n mynd o chwith. Mae CBCA yn dod i'r meddwl, er enghraifft. Felly, yn amlwg mae angen i ni wneud yn siŵr bod y bwrdd hwn o’r ffurf a’r maint cywir, ond hefyd y gellir ei ddal yn atebol am ei weithredoedd, gan Lywodraeth Cymru ac, yn wir, gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r sector yn ei gyfanrwydd. Felly, sut ydych chi'n gweld y mathau hynny o drefniadau yn gweithio i wneud yn siŵr bod llywodraethu'r bwrdd newydd hwn yn mynd i fod yn iawn mewn gwirionedd?
A gaf i hefyd ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych yn mynd i fesur llwyddiant? Yn amlwg, rydym yn cael cipluniau yn flynyddol gydag adroddiad blynyddol Estyn a’u barn ar berfformiad ar draws Cymru. Rydym yn cael ciplun bob tro y mae arolygiad wedi ei gwblhau. Rydym wedi cael cipluniau gydag adroddiadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ogystal â'r system addysg yng Nghymru. Ond sut ydych chi mewn gwirionedd yn mynd ati i fesur llwyddiant yr academi hon? Ai drwy ganlyniadau gwell i ddisgyblion, i ddysgwyr, neu drwy’r ffaith bod pobl wedi mynd ar gyrsiau? Oherwydd ni allaf weld unrhyw le yn y datganiad heddiw lle’r ydych yn benodol yn mynd i fod yn gallu mesur hynny.
Rydych wedi sôn am rai o'r heriau recriwtio sydd gennym, ac rwy’n cydnabod y rheini hefyd, yn sicr yn rhai rhannau o Gymru. Roedd ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn benodol, yn wynebu rhai heriau wrth recriwtio penaethiaid newydd yn y gorffennol, fel y mae rhai o'n hysgolion arbenigol a'n hysgolion ffydd hefyd. Felly, tybed a ydych yn mynd i gael pwyslais penodol ar rywfaint o'r ddarpariaeth arbenigol lle mae’r gwendidau hyn gennym o ran gallu nodi penaethiaid newydd, a sut ydych yn disgwyl i’r academi genedlaethol hon fod yn gallu llenwi rhai o’r bylchau hynny. Diolch.
A gaf i ddiolch i Darren Millar am ei gefnogaeth mewn egwyddor i'r academi a’r pwyslais cryf ar arweinyddiaeth? Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod diffyg cefnogaeth i arweinyddiaeth yn un o elfennau allweddol adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyflwr addysg yng Nghymru yn 2014, ac mae'n faes lle nad oes llawer o gynnydd wedi'i wneud. Felly, fel chi, Darren, rwy'n awyddus iawn bod cynnydd yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo modd ac, fel bob amser, rydym yn ceisio cael y cydbwysedd cywir rhwng cyflymder a sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud o werth ac y bydd yn llwyddo .
Felly, yn sicr nid ydym yn eistedd yn ôl ac yn aros am y gwanwyn y flwyddyn nesaf pan fyddem yn disgwyl i'r cwmni fod yn weithredol. Dyna pam yr wyf yn tynnu sylw at y newidiadau yr ydym eisoes yn eu gwneud, er enghraifft, i’r CPCP, yr oedd angen ei gryfhau, yn fy marn i, a sut rydym wedi gallu perswadio'r consortia i weithio'n well gyda'i gilydd i symleiddio eu cynnig. Un o'r heriau yn y gorffennol oedd bod y cynnig ar gael ar gyfer dysgu proffesiynol ar bob lefel wedi bod yn ddibynnol iawn ar ba gonsortia yr oeddech yn digwydd bod yn gweithio ynddynt. O fis Medi eleni, bydd gennym gynnig mwy unedig sy'n darparu ecwiti i athrawon ar draws ein gwlad, a bydd y safon yn debyg ni waeth ble’r ydych chi. Felly, nid ydym yn eistedd yn ôl yn aros am y gwanwyn; rydym yn bwrw ymlaen a bydd gennym gynigion newydd o fis Medi eleni.
Mae Darren yn codi'r mater o fynediad cynnar, a oedd yn destun llawer o ddadlau yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddoe. Byddwch yn ymwybodol fy mod innau wedi codi pryderon y tu mewn a'r tu allan i'r Siambr ynghylch yr arfer o fynediad cynnar. Gadewch imi fod yn glir—rwy'n croesawu'r cyfle i fod yn glir unwaith eto: dylai pob penderfyniad ynghylch mynediad cynnar i arholiad ffurfiol gael ei wneud ar sail yr hyn sy'n iawn i’r myfyriwr unigol hwnnw, ac rwy’n pryderu nad yw hynny’n cael ei wneud mewn rhai o'n hysgolion ni. Mae tystiolaeth i awgrymu, yn anecdotaidd, fod rhai myfyrwyr yn cael mynediad yn gynnar, yn bancio eu graddau C, sy'n gweithio tuag at fesurau atebolrwydd yr ysgol. Ond mewn gwirionedd, o ystyried bod cyfle i sefyll yr arholiad hwnnw unwaith eto, neu yn wir gyfle i sefyll yr arholiad hwnnw flwyddyn yn ddiweddarach, gallai’r plentyn hwnnw fod wedi mynd ymlaen i gael B neu A neu A*.
Rydym yn gwneud dau beth ynghylch hyn, Darren. Yn gyntaf, mae rhywfaint o waith ymchwil ansoddol yn cael ei wneud o ran y patrymau mynediad cynnar, sy'n cael ei wneud gan Gymwysterau Cymru; mae consortia wedi ysgrifennu at bob ysgol i fynegi fy mhryder i ac i gadarnhau fy agwedd i at fynediad cynnar; ac rwyf wedi ymrwymo i adolygu atebolrwydd menter uchel, sydd yn aml yn sbardun ar gyfer penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ynghylch mynediad cynnar. Mae'n rhaid i ni gael dull callach o edrych ar a yw ysgol yn llwyddiannus ai peidio, ac nid dull sydd â chanlyniadau anfwriadol, yr ydym o bosib yn ei weld yma, o ran y defnydd o fynediad cynnar.
Darren, mae'n bwynt da am AB ac AU. Mae rhaglenni arweinyddiaeth eisoes ar waith ar gyfer y ddau sector hyn. Rydym wedi bod yn esgeulus yn y sector ysgolion drwy beidio â chael y ddarpariaeth hon yn gynharach, ac mae AB ac AU wedi bod yn rhan o'r trafodaethau. Rydym yn bwriadu gweithio gyda nhw i weld pa wersi y gellir eu dysgu. Fy ngweledigaeth i yn y pen draw i’r academi yw y bydd yn darparu cyfleoedd arweinyddiaeth ar gyfer pawb sydd yn cymryd rhan mewn addysg yng Nghymru—o’r sector meithrin, o’n sector ysgolion, y sector AB, sector AU, consortia rhanbarthol, awdurdodau addysg lleol a, mentraf ddweud, hyd yn oed adran addysg Llywodraeth Cymru hefyd. Os yw ein system addysg i fod yn llwyddiant, mae angen arweinwyr ar bob lefel, a does neb yn cael eu heithrio rhag gallu cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol a fydd yn eu gwneud yn well yn y swydd honno, ac mae hynny'n wir am fy adran i hefyd.
Mae ffederasiwn yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â rhai o'r heriau arweinyddiaeth a recriwtio a chadw staff, ac mae hynny’n cael ei ddefnyddio fwyfwy ar draws y sector. Mae'n fater penodol a allai fod mewn ysgolion gwledig, lle gall y gallu i recriwtio penaethiaid i ysgolion bach, gwledig ynysig o bosibl fod yn broblematig, ac felly yn creu amheuaeth dros hyfywedd ysgolion yn y dyfodol. Felly, byddwch yn ymwybodol o gyflwyno'r gronfa ysgolion gwledig, sydd â chanllawiau penodol ynghlwm wrthi i edrych ar ffederasiwn ategol, caled a meddal.
O ran cyfansoddiad y bwrdd, rwy’n disgwyl iddo fod yn fach, ac rwy’n disgwyl iddo gael ei arwain gan brif weithredwr a chadeirydd dan nawdd penodiadau cyhoeddus. Ond i roi sicrwydd i chi, mae Cyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn wedi bod yn rhan o'r bwrdd cysgodol. Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn aelod ffurfiol o'r bwrdd cysgodol ac mae Estyn yn sylwedydd yn y bwrdd cysgodol. Felly, rydym yn ystyried barn y bobl hynny wrth i ni ddatblygu'r rhaglen. Sut beth fydd llwyddiant? Wel, nid ydym wedi cyrraedd y cam hwnnw o gael targedau neu fesurau llwyddiant eto mewn gwirionedd, ond llwyddiant fydd canlyniadau gwell ar gyfer ein dysgwyr a Chymru yn fan i ddilyn gyrfa addysgol, boed hynny fel athro ysgol neu arweinydd ysgol. A byddwch eisiau dod yma gan y byddwch yn cael eich datblygu i wneud eich swydd, byddwch yn cael eich cefnogi yn eich swydd a byddwch yn gweithio mewn system addysg lwyddiannus.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad ac ategu ei diolch hi hefyd i’r bwrdd cysgodol am eu gwaith nhw hefyd?
Rydych chi yn cyfeirio yn y datganiad eich bod dros y pum mlynedd nesaf wedi ymrwymo i ddatblygu ‘approach’ cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol gydol gyrfa. Rwy’n gwybod eich bod wedi cyfeirio at hyn yn y gorffennol, ac mi fydd hyn yn newyddion da i’r rheini sydd wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn ddiweddar i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn â datblygiad proffesiynol, sydd yn teimlo efallai nad yw’r ‘coherence’, nad yw’r pecyn cydlynus yna yn ei le ar hyn o bryd. Ond rydych chi yn dweud, ac mi bigaf lan ar amseru, y bydd hynny yn datblygu dros bum mlynedd, ac fe fyddwn i yn cwestiynu efallai tra bod rhywun yn derbyn bod creu y corff newydd, neu’r cwmni cyfyngedig drwy warant newydd yr ŷch chi’n cyfeirio ato, yn mynd i gymryd amser, a ydym ni’n ddigon uchelgeisiol i drio cyrraedd y pwynt lle rydym eisiau ei gyrraedd mewn cyfnod o bum mlynedd? Efallai y gallwch chi ymateb i hynny.
Byddwn i’n cytuno yn gryf iawn fod angen gwella llwybrau gyrfa, fel rŷch chi’n ei ddweud ac yn ei gydnabod yn eich datganiad, ond mae yna ddilema, wrth gwrs, oherwydd mae llawer o’r dystiolaeth rŷm ni’n ei chlywed yn sôn am athrawon, a’r athrawon gorau, yn cael eu dyrchafu allan o’r ystafell ddosbarth. Felly, mae’r her, am wn i, yno i daro cydbwysedd rhwng sicrhau bod yna gyfleoedd i’r goreuon symud y tu hwnt i’r dosbarth yn eu gyrfa, ond hefyd nad ydym ni’n colli’r athrawon gorau o hyd, sydd yn mynd yn benaethiaid sydd ddim yn dysgu neu’n mynd i’r consortia neu’r awdurdod lleol neu Estyn ac yn y blaen. Felly, mae angen sicrhau bod y ‘pipeline’ yna yn gyfoethog o dalent yn dod drwyddo, ac felly mae yna beryg efallai fod edrych ar hwn mewn ‘isolation’ yn digwydd. Rwy’n siŵr na fydd e, ond byddwn i yn leicio clywed sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet ei bod hi yn awyddus i daro’r cydbwysedd yna, ond hefyd wrth gwrs sut rydych chi’n taro cydbwysedd rhwng sicrhau cyfleoedd ond eto peidio â cholli, o reidrwydd, y talent gorau o’r ystafelloedd dosbarth.
Rŷch chi’n cyfeirio at y cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth, CPCP—yr NPQH—yn eich datganiad hefyd. Rwyf i wedi codi gofidiau am y ddarpariaeth yma yn y gorffennol a’r sefyllfa a oedd yn bodoli lle roedd yna fethiant i gael lle ar gyrsiau, lle roedd yna lai o lefydd ar y cyrsiau yna nag oedd yna o swyddi penaethiaid gwag yn aml iawn, nad oedd yn gynaliadwy iawn mewn gwirionedd. Rwy’n deall, fel rŷch chi’n ei ddweud yn y datganiad, fod y sefyllfa wedi gwella, ond byddwn i yn leicio gwybod, er enghraifft, a ydy Llywodraeth Cymru wedi edrych ar faint o bobl sydd wedi cwblhau y cymhwyster yna ac sydd wedyn wedi mynd ymlaen i fod mewn rôl pennaeth. Leiciwn i fod yn saff eich bod chi wedi gwerthuso’r cyrsiau yma fel ag y maen nhw, oherwydd yr adborth rwy’n ei gael gan nifer o athrawon yn y maes, a’r rhai sydd wedi cwblhau’r cymhwyster yma, yw nad ydyn nhw o reidrwydd wedi bod yn dysgu sgiliau newydd, ond eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn cofnodi beth maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd. Rwy’n deall bod yna werth, wrth gwrs, i ddysgu myfyriol—‘reflective learning’—ond rwy’n teimlo bod canfyddiad, yn sicr ymhlith y proffesiwn, nad yw yr CPCP yn cynnig y gwerth gorau posib iddyn nhw yn eu datblygiad gyrfa. Ac os ydych chi am gadw’r CPCP, fel rŷch chi’n ei ddweud yn eich datganiad—ac nid oes gennyf i broblem â hynny o reidrwydd—yr hyn rydw i eisiau bod yn saff ohono fe yw bod yr CPCP mor ystyrlon ag sy’n bosib, mor werthfawr ag sy’n bosib, ac yn cael yr impact gorau posib am y buddsoddiad amser y mae’r unigolion a’r sector yn ei roi i mewn i gwblhau’r cymhwyster yna.
I gloi, hefyd, ac efallai i fod yn rhyw ddadleuydd y diafol—ac rwyf wedi torri’r rheol aur drwy ddefnyddio Google Translate i ffeindio beth oedd y Gymraeg am ‘devil’s advocate’—ond i fod yn ddadleuydd y diafol, gallwn i ofyn beth yw pwynt creu gwell arweinyddion os yw’r baich gwaith y mae’r arweinyddion yma yn ei wynebu yn eu llethu nhw pan mae’n dod i gyflawni eu rôl. Rhan fawr o’r her sy’n ein hwynebu ni wrth greu arweinyddion yw creu yr amser i arwain mewn modd effeithiol, ond hefyd creu yr amser i ddysgu sut i arwain hefyd, er mwyn sicrhau gwelliant parhaus o fewn y proffesiwn.
Nawr, rwy’n edrych ar weledigaeth yr academi, fel rŷch chi wedi’i hamlinellu yn eich datganiad, y pedwar pwynt bwled: bod yn gynhwysol; ysbrydoli ac ysgogi; adeiladu capasiti; ac ansawdd. Nid oes dim byd newydd yn fanna, os caf i fod yn onest. Rwy’n siŵr eich bod chi’n cydnabod hynny. Rwy’n derbyn fy mod i’n ei gymryd mas o’i gyd-destun—mi fyddai yn dda petaem ni’n cael gweld y cyfanwaith sydd wedi’i gyflwyno i chi gan y bwrdd cysgodol, efallai, o safbwynt ei argymhellion ac unrhyw waith sydd y tu ôl i hynny. Ond, os ydych chi yn y proffesiwn, rŷch chi’n rheolwr, rŷch chi’n addysgwr, rŷch chi yn ddysgwr hefyd o safbwynt datblygu proffesiynol. Gallwch chi fod yn SENCo; gallwch chi fod yn rhan o ysgol arloesi ac yn edrych ar ddatblygu’r cwricwlwm newydd. Dyna yw’r brif her, neu’r prif rwystr, rhag bod yn arweinydd da yn aml iawn: nid oes amser gennych chi i gael gafael ar y rôl honno mewn gwirionedd. Mae bron 90 y cant yn methu â rheoli’r baich gwaith o fewn eu horiau gwaith yn ôl arolwg diweddar gan yr EWC. Felly, mae yna gwestiynau, rwy’n meddwl, ynglŷn â rhyddhau’r amser i gyflawni’r agenda yma yn effeithiol, yn enwedig, fel rŷch chi wedi cyfeirio gynnau, mewn ysgolion bach lle nid oes gennych chi dîm y gallwch chi fod yn ‘delegate-io’ cyfrifoldebau iddyn nhw. Mae’r agenda—mi gyffyrddoch chi ar hyn yn eich ateb gynnau—ysgolion bychain, gwledig yn amlach na pheidio, ac arweinyddiaeth yn mynd law yn llaw. Byddwn i’n licio clywed mwy ynglŷn â sut maen nhw, hefyd, yn gorgyffwrdd.
Diolch i Llyr am ei gwestiynau. O ran y cynnig dysgu proffesiynol, nid wyf yn credu, yn y gorffennol, ein bod wedi gallu cynnig y cyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n wirioneddol ddefnyddiol i’n proffesiwn addysgu. Mae angen taro cydbwysedd rhwng dull cenedlaethol o weithredu, gan sicrhau bod pob athro, waeth ble y maent yng Nghymru, yn cael gafael ar gyfres o gyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol, boed hynny’n gyflwyno'r fframwaith cymhwysedd digidol, er enghraifft, neu reoli ymddygiad, neu newidiadau cwricwlwm newydd, ond hefyd gydnabod, ar gyfer pob athro, bod eu hanghenion a'u disgwyliadau dysgu proffesiynol eu hunain yn mynd i fod yn wahanol iawn.
Mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd o'r dysgu proffesiynol hen ffasiwn yr ydym wedi ei wneud yn y gorffennol, lle’r ydym yn gofyn i athrawon ddod, fel arfer i Gaerdydd, a gwrando ar ŵr doeth yn siarad ar lwyfan am y diwrnod ac yna fynd yn ôl a gwneud hynny yn yr ysgol. Nid yw hynny yn ysbrydoli’r gweithwyr proffesiynol eu hunain, ac nid yw'n cael effaith yn y dosbarth. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau cyfleoedd dysgu proffesiynol trosfwaol cenedlaethol, ond hefyd mae’n rhaid bod yn ymatebol i anghenion unigol athrawon unigol. Gall dysgu proffesiynol ddigwydd mewn llawer iawn o ffyrdd, a’n gwaith ni yw sicrhau, fel Llywodraeth genedlaethol, bod hynny ar gael i bawb, ei fod yn cael ei gyllido'n iawn, a bod yr hyn sydd ar gael o ansawdd da.
Llŷr, rydych yn hollol gywir. Un o'r heriau sydd gennym yw hyn: os oes gennych athro ifanc disglair, afieithus, mae’r person hwnnw yn cael ei chwipio i fyny drwy'r rhengoedd ac yn aml yn cael ei dynnu allan o'r ystafell ddosbarth. Dyw hyn ddim yn wir ym mhob achos, ond weithiau nid y nodweddion a'r talentau proffesiynol sydd gennych sy'n eich gwneud yn athro dosbarth gwych yw’r rhinweddau arweinyddiaeth sydd eu hangen i redeg ysgol. Felly, mae'n rhaid i ni gydnabod a rhaid i ni roi dilyniant gyrfa i’r bobl hynny sydd am aros yn yr ystafell ddosbarth. Ni ddylai eu cyfleoedd gyrfa a'u potensial o ran cyflog gael eu mygu oherwydd mai dyna ble maent yn rhagori. Dyna ble mae angen iddynt fod, ac, wrth gwrs, mae datganoli tâl ac amodau yn rhoi cyfle perffaith i edrych ar y pethau hyn yn llawn.
Mae'r cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth, mae angen iddo fod—rydym angen iddo wella ac rydym yn y broses honno. Rydym yn sicr yn gwrando ar adborth y bobl hynny sydd wedi mynd drwy’r broses. Ond mae dau beth sydd yn rhaid i ni fynd i'r afael â nhw: (1) pam, os bydd rhywun yn mynd drwy'r broses CPCP, nad yw’n mynd ymlaen i wneud cais am swydd prifathrawiaeth? Rwy’n adnabod athro dawnus iawn yn fy etholaeth i fy hun a chawsom yr union sgwrs yma. Dywedodd wrthyf, ‘Ydych chi o ddifrif? Rwyf wedi gweld yr hyn y mae’n rhaid i fy mhennaeth i ei wneud ac rwy'n eithaf hoffi fy mywyd, diolch yn fawr iawn'. Daw hyn â ni at y cwestiwn gwirioneddol yr ydych wedi siarad amdano: llwyth gwaith. Rydym yn aml yn sôn am lwyth gwaith athrawon, ond gall llwyth gwaith penaethiaid yn aml fod yn eithafol.
Felly, yr hyn yr ydym yn ei wneud o ran llwyth gwaith penaethiaid, mae ymchwil yn digwydd ar hyn o bryd lle’r ydym yn edrych ar yr hyn y mae penaethiaid yn treulio eu hamser yn ei wneud a'r hyn y gallwn ei wneud i liniaru rhywfaint ar hynny. Rwyf am i fy mhenaethiaid i—ein penaethiaid, mae’n ddrwg gen i; roedd hynna’n berchnogol iawn ar fy rhan i, 'fy mhenaethiaid’—rwyf am i’n penaethiaid ni fod yn canolbwyntio ar addysgu a dysgu a datblygu'r cwricwlwm. Dydw i ddim eisiau bod yn pryderu, fel yr oeddwn am un pennaeth a oedd yn treulio'r rhan fwyaf o'i hamser yn poeni am sut mae hi'n mynd i agor y drysau yn y bore, oherwydd bod adeilad yr ysgol lle mae’n gweithio yn disgyn i lawr o’i chwmpas. Ni ddylai fod yn poeni am hynny; dylai hi fod yn poeni am addysgu a dysgu. Nid wyf am i’r pennaeth y cwrddais â hi yn ddiweddar dreulio amser yn edrych ar sut y gall arbed 10 ceiniog ar yr archeb bapur neu'r archeb papur tŷ bach; mae angen iddi fod yn meddwl am addysgu a dysgu. Gallwn ddirprwyo’r tasgau hynny i bobl eraill. Felly, yn union fel y gallem fod yn edrych ar ffederasiwn, yn wir mae’n rhaid i ni hefyd edrych ar reolwyr busnes yn cymryd rhai o'r tasgau hynny oddi ar benaethiaid a'u rhoi i bobl sydd â’r sgiliau i wneud hynny a'r amser i wneud hynny. Yna gall y penaethiaid ganolbwyntio ar yr hyn yr ydym am iddyn nhw ganolbwyntio arno, sef codi safonau a darparu profiadau addysgol gwych i’n pobl ifanc.
Mae’r mater arall yn ymwneud â chael meincnod ar gyfer prifathrawiaeth, a chael rhywfaint o sicrwydd am y cymwysterau a'r parodrwydd ar gyfer prifathrawiaeth. Ond gadewch i mi fod yn glir: yr hyn y bydd yr academi hefyd yn ymwneud ag ef yw nid cael rhywun drwy CPCP y maent wedi sicrhau ei ansawdd; mae hefyd yn ymwneud â chreu'r mentora a'r cymorth sy’n digwydd yn barhaus. Ac un o'r pethau yr ydym yn eu gwneud i benaethiaid newydd yn arbennig yw, 'Llongyfarchiadau, dyma eich prifathrawiaeth newydd, i ffwrdd â chi', ac rydym yn gadael llonydd iddynt. Mae hynny'n frawychus iddynt—yn bosibilrwydd gwirioneddol frawychus—i’r gweithwyr proffesiynol hynny. Felly, mae’r academi arweinyddiaeth yn ymwneud â meithrin gyrfa pobl drwy gydol y daith gyfan, ac nid dim ond dweud, pan fyddwch yn cael swydd pennaeth, 'Dyna ni, yn awr rydych ar eich pen eich hun, pob lwc’. Bydd yn darparu mentora newydd a threfniadau partneriaeth, ac felly’n cefnogi penaethiaid i wneud hynny.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. O’m profiad fy hun mewn ysgolion uwchradd, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw arweinyddiaeth wrth sicrhau bod ein hysgolion yn ffynnu, bod y staff yn teimlo eu bod yn ymgysylltu ac yn cael eu cefnogi, a bod disgyblion yn cyflawni’r llwyddiant yr ydym yn dymuno ei gael ganddynt.
Mae gennyf dri chwestiwn byr am eich datganiad heddiw. Rydym i gyd yn gwybod am y pwysau ar gyllidebau ysgolion. Nid yw’n ymwneud yn unig â chynnig cyfleoedd i staff hyfforddi a datblygu, ond mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod digon o adnoddau yn y system, fel y gellir rhyddhau staff a blaenoriaethu hyfforddiant. Sut fyddwch chi’n gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael fel y gall staff mewn gwirionedd gael eu rhyddhau?
Yn ail, hoffwn hefyd wybod mwy am sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau hygludedd yr hyfforddiant a’r datblygiad hwn, fel y gall arweinwyr ysgolion yng Nghymru sydd wedi elwa gael cydnabyddiaeth i’w datblygiad y tu allan i Gymru. Byddwn yn gobeithio y byddai arweinwyr ysgolion yng Nghymru yn cael eu cydnabod ymhlith y gorau—sut fyddai Llywodraeth Cymru yn rhagweld cydnabyddiaeth ehangach o hyn yn datblygu?
Yn olaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am yr arweinyddiaeth ragorol y bu’n dyst iddi mewn ysgolion yng Nghymru, ac rwy’n gwybod ein bod yn ymweld â Chraig yr Hesg yng Nglyncoch gyda’n gilydd yr wythnos nesaf i weld un enghraifft o'r fath. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr arfer gwych sy'n digwydd yn ddyddiol yn ysgolion Cymru wrth wraidd y cynnig arweinyddiaeth newydd?
Diolch i chi, Vikki. Un o'r pethau a ddywedodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd oedd (1) oes, mae'n rhaid i ni wneud mwy ynghylch arweinyddiaeth, ond, yn ail, mae'n rhaid i ni wella o ran cydnabod llwyddiant a dathlu llwyddiant. Rwy’n credu, weithiau, bod rhywbeth cynhenid ynom ni fel Cymry—pe baem yn Americanwyr, byddem yn uchel ein cloch, ond mae rhywbeth cynhenid ynom ni fel pobl Cymru i beidio â bod eisiau ymffrostio neu bod yn rhy ddigywilydd. Dyna pam yr ydym yn edrych ar nifer o ffyrdd y gallwn ni, yn wir, ddathlu llwyddiant a chydnabyddiaeth. Yn fwyaf diweddar, rydym wedi lansio gwobrau addysgu cyntaf erioed Cymru, a phrofiad dyrchafol iawn oedd hynny hefyd. Rydym yn mynd ati i edrych ar ysgoloriaethau Llywodraeth Cymru i benaethiaid a gweithwyr proffesiynol addysgol ennill y cyfle i astudio ymhellach, a chael eu cynnig yn esiampl o ysgolheigion Cymreig. Rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn fynd ymlaen i wella enw da hyfforddiant yng Nghymru. Ond, yn y pen draw, bydd llawer o hyn yn fater o ansawdd ein haddysg gychwynnol i athrawon, a'r ddarpariaeth gan yr academi. Rwyf am weld pobl yn anelu at gael dod i sefydliadau Cymreig i hyfforddi i fod yn athro, oherwydd mai’r rhain yw’r sefydliadau gorau i gyflwyno’r hyfforddiant hwnnw.
Mae amser yn broblem wirioneddol, ac mae cyfyngiadau mewn cyllidebau yn golygu bod creu amser ar gyfer dysgu proffesiynol yn her wirioneddol. Dyna pam mae'n rhaid i ni fod yn llawer mwy creadigol am sut yr ydym yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol, ac nid yn y ffordd hen ffasiwn. Byddem yn elwa llawer drwy weithio adran i adran. Un o'r heriau gwirioneddol sydd gennym mewn ysgolion yw nid bod yr ysgol honno yn well na’r ysgol honno draw acw mewn sir arall; amrywiaeth o fewn yr ysgol ydyw mewn gwirionedd. Gallwn gael adrannau sy'n perfformio'n dda mewn un ardal ac adran sy’n perfformio'n isel mewn ardal arall. Mae cael yr ysgol ei hun i weithio fel un i godi safonau’n fewnol yn gyfle dysgu proffesiynol posibl y byddwn yn hoffi gweld mwy ohono’n digwydd.
Ond mae’n rhaid i hyn gael ei gymryd fel pecyn cyfan. Ni fydd yr academi arweinyddiaeth ar ei phen ei hun yn llwyddo heb ein diwygiadau i addysg gychwynnol athrawon, heb ein safonau proffesiynol. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn i gyd yn y darlun, ac mae hyn yn ymwneud, fel y dywedais, â chreu system addysg sy'n destun balchder a hyder cenedlaethol, a chynnal y proffesiwn i fod yn broffesiwn statws uchel y byddai pob un ohonom yn dymuno ei weld.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Os bydd yr academi yn gyfrifol am froceru rhaglenni arweinyddiaeth a sicrhau ansawdd, yn amlwg bydd angen iddi gyflogi staff, nid wyf yn amau hynny. Ond y cwestiwn yr wyf am ei ofyn yw beth fydd maint yr academi—faint o bobl sy’n debygol o fod ar y bwrdd a faint o weithwyr fydd eu hangen? Sut fydd bwrdd yr academi yn cael ei ddal i gyfrif am berfformiad yr academi? A fyddwn yn diweddu â sefyllfa debyg i un y byrddau iechyd, lle mae’n ymddangos, er gwaethaf methiannau dro ar ôl tro, nad oes unrhyw un ar y bwrdd iechyd yn cael ei ddal yn briodol i gyfrif?
Rydych hefyd yn datgan eich bod yn parhau i ymgynghori ar swyddogaeth a chylch gwaith llawn yr academi. A allwch chi roi unrhyw syniad inni pryd y bydd swyddogaeth a chylch gwaith llawn yr academi yn cael eu cwblhau ac y cyhoeddir y manylion? Fy ngobaith yw y bydd yr academi yn sicrhau bod y ddarpariaeth hyfforddiant yn cael ei chynnig yn gyfartal ledled Cymru, a byddwn yn gofyn i chi gadarnhau a fydd hynny'n digwydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn gwella ystod o raglenni arweinyddiaeth ar gyfer penaethiaid ac arweinwyr canol. Ond a all Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda, egluro a fydd y rhaglenni a drefnwyd gan yr academi yn disodli neu’n eistedd ochr yn ochr â'r rhai sy'n bodoli eisoes? Os mai’r olaf sy’n wir, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y bydd y rhaglenni newydd yn cael eu cydlynu â’r rhai presennol? Rwy'n cefnogi nod Ysgrifennydd y Cabinet i wella arweinyddiaeth mewn ysgolion ac i roi'r cymorth sydd ei angen i arweinwyr ysgolion, ond mae diffyg manylder yn y datganiad hwn, ac edrychaf ymlaen at glywed y manylion maes o law. Rwy’n gobeithio’n wir y bydd yr academi hon yn llwyddo, ond cawn ni weld beth fydd yn digwydd. Diolch.
A gaf i ddiolch i Michelle am ei hagwedd optimistaidd ar ddyfodol arweinyddiaeth ysgolion yng Nghymru? Yr hyn y dylwn i fod wedi ei wneud wrth ateb rhai o gwestiynau Darren a Llŷr Gruffydd, ac, yn wir, Michelle—rwy'n siŵr y byddai Ann Keane, sy'n cadeirio'r bwrdd cysgodol, yn hapus iawn i gwrdd â llefarwyr, neu Aelodau eraill o'r Cynulliad yn wir sydd â diddordeb yn y maes, er mwyn i bobl gael dealltwriaeth ddyfnach o'r prosesau meddwl. Rwy'n ffodus fy mod yn cael cwrdd ag Ann yn rheolaidd, ond rwy'n siŵr na fydd ots ganddi os wyf yn ymestyn y cyfle hwnnw i Aelodau'r Cynulliad, os hoffent ymgysylltu â hi ar hynny. Rwy’n rhagweld y bydd y rhaglenni presennol yn dod i'r academi. Ond nid oes gennym atebion eto i rai o'r cwestiynau hyn a godwyd gan Michelle. Dyna mae’r gwaith parhaus yn canolbwyntio arno.
Fel y dywedais yn fy natganiad, mae gennym sioeau teithiol wedi’u trefnu ar gyfer y mis nesaf, a sefydlu bwrdd prosiect mewnol Llywodraeth Cymru i fynd â'r prosiect yn ei flaen. Erbyn mis Gorffennaf, rwy’n disgwyl i waith ddechrau ar sefydlu'r academi, gan gynnwys yr erthyglau cymdeithasiad, y cylch gorchwyl, aelodau’r bwrdd, a phontio o'r bwrdd cysgodol i'r bwrdd newydd. Unwaith y bydd y cwmni cyfyngedig trwy warant yn cael ei sefydlu, bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi wedyn i benodiad cyhoeddus Prif Swyddog Gweithredol a chadeirydd, ac rwyf am i hynny fod dan delerau Nolan a phenodiadau cyhoeddus. Yna, o'r gwanwyn ymlaen, bydd y bwrdd cysgodol yn trawsffurfio i'r sefydliad newydd. Ni chytunwyd eto ar rai o'r manylion y mae Michelle wedi gofyn amdanynt, Dirprwy Lywydd ac, fel yr wyf wedi ei wneud heddiw, rwyf yn fwy na pharod i ddod yn ôl i'r Siambr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr wrth i’r penderfyniadau hynny gael eu gwneud gennyf i.
Diolch yn fawr iawn. Mae gennym dri siaradwr arall, a gaf i atgoffa pawb ein bod wedi cael un llefarydd o bob plaid bellach. Felly a gaf i ofyn am ragymadrodd byr a chwestiynau byr ac atebion byrrach? Diolch. Felly, Lee Waters.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn gefnogi’n gynnes yr angerdd sydd gennych ar gyfer meithrin arweinyddiaeth fel ffordd o gyflawni rhagoriaeth mewn safonau. A gaf i ofyn cwpl o gwestiynau am sut yr ydych yn gweld hyn yn rhan o’r sefyllfa bresennol o fentrau, gan gadw mewn cof ein bod i fod gwneud llai o bethau a chadw pethau'n syml? Felly, sut, yn benodol, ydych chi’n gweld hyn yn rhan o'r consortia ac awdurdodau addysg lleol, gan fy mod yn credu bod perygl i ni fod â thirwedd anniben? Yn ail, rydym yn pwysleisio’r angen am gymorth ysgol i ysgol er mwyn codi safonau ysgolion ac fel y gwyddoch, mae rhagoriaeth eisoes mewn arweinyddiaeth ledled Cymru. Felly, sut ydym yn gweld arweinwyr presennol yn cefnogi’r arweinwyr sy'n dod i'r amlwg? Ac, yn olaf, soniasoch yn eich datganiad ichi ddweud:
Ni all ansawdd y system addysg ragori ar ansawdd ein hathrawon.
Fel y gwyddoch, mae hanner y gweithlu ysgol yn gynorthwywyr cymorth dysgu, ac rwy’n teimlo eu bod yn rhan o’r gweithlu sy’n cael ei hesgeuluso. Felly, sut ydych chi'n gweld y gweithlu hwnnw’n yn cael ei ddal o fewn ysbryd yr academi?
Dirprwy Lywydd, rydych am i mi i roi atebion byr, ond mae’r rheini’n gwestiynau mawr—cwestiynau mawr iawn. O ran cynorthwywyr addysgu lefel uwch, rydych yn hollol iawn. Maent yn rhan hanfodol o'n gweithlu, ac rydym wedi gweld y gwaith o ddatblygu cynorthwywyr addysgu lefel uwch dros dymor diwethaf y Cynulliad, ac rydym yn awyddus i gyflymu nifer y cynorthwywyr addysgu sy'n gallu cael mynediad at y cyfleoedd hyfforddi hynny i wella eu cymwysterau. Ac, fel y soniais mewn ateb cynharach, yn y pen draw, er y bydd yr academi yn y lle cyntaf yn edrych ar arweinwyr ysgolion ac arweinwyr posibl, rydym yn awyddus i’r academi edrych ar arweinyddiaeth ar bob lefel, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu. O ran gwaith ysgol-i-ysgol, mae'n gwbl hanfodol ein bod, yn rhan o'r drefn hunanwella, yn darparu’r cyfleoedd hynny i bobl i weld beth mae da yn ei olygu.
Weithiau, pan fyddwch yn mynd i ysgol, nid yw’n fater o bobl yn awyddus i godi yn y bore a gwneud gwaith gwael, ond yn syml nid ydynt yn gwybod beth mae da yn ei olygu. A dweud y gwir, mae rhoi cyfle iddynt weld sut mae arweinyddiaeth ragorol ac addysgu gwych yn edrych yn gwbl hanfodol iddynt. Dyna beth yr ydym yn canolbwyntio arno, fel rhan o'n gwaith ar weithio ysgol-i-ysgol: sef rhoi cyfle i bobl fentora, i weithio gyda'i gilydd, i dreulio amser mewn ysgolion eraill, mewn ystafelloedd dosbarth pobl, i ddefnyddio'r arferion rhagorol sydd gennym eisoes, ac i fod yn llawer mwy soffistigedig yn y ffordd yr ydym yn gwneud rhywfaint o'n dysgu proffesiynol. Soniais yn gynharach am ei wella; os ewch at bartneriaeth Fern, mae eu dysgu proffesiynol yn cael ei ddatblygu gan hyfforddiant byw. Felly, caiff yr ystafelloedd dosbarth eu trefnu fel bod modd gweld yr athro o ystafell wahanol. Gyda theclyn yn eu clust, maent yn cael cyngor ar ddysgu proffesiynol wrth iddynt gyflwyno’r wers—wyddoch chi, 'Rhowch gynnig ar hyn', 'Ydych chi wedi meddwl am hyn?' Felly, rydym yn buddsoddi yn y math hwnnw o gymorth a dysgu proffesiynol— llawer gwell na'r hyn yr oeddem yn arfer ei gael yn y gorffennol.
O ran Awdurdodau Addysg Lleol a chonsortia, dyna pam nad ydym am weld yr academi yn darparu hyn ei hunan, gan y bydd hynny'n golygu, yn syml, chwaraewr arall. Ei swydd fydd brocera a sicrhau bod y consortia, a fydd yn arwain ar hyn, yn defnyddio hyn. Ond nid ydym am iddynt ei ddarparu eu hunain, oherwydd byddai hynny'n ychwanegu at ddryswch yr hyn sydd eisoes, yn fy marn i, yn gae eithaf gorlawn.
Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n falch bod rhywbeth tebyg iawn i bolisïau’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ffeindio ei ffordd i mewn i’ch polisi chi, ac felly a allaf ofyn: a ydych chi’n cytuno bod gan arweinwyr addysg rôl hanfodol wrth wella lle’r Gymraeg yn niwylliant ein hysgolion a’n colegau? Nid wyf yn siarad am y cwricwlwm nawr, ond y diwylliant. A sut y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yng ngweledigaeth, gwerthoedd a swyddogaethau yr academi?
Wel, ni wn am bolisi’r Torïaid yn canfod ei ffordd i mewn i fy agenda i. Gallaf sicrhau'r Aelod bod hyn yn ymrwymiad ym maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru flwyddyn yn ôl, a dyna un o'r rhesymau pam yr wyf yn benderfynol o’i symud ymlaen.
Rwy'n credu bod y mater hwn ynghylch gwerthoedd yn gwbl hanfodol. Un o'r pethau sy'n fy ngwneud yn falch o fod yn Ysgrifennydd addysg yng Nghymru yw oherwydd y gwerthoedd sy'n sail i'n system addysg—gwerthoedd ecwiti, cyfle; gwerthoedd sy'n gyson â sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg ac yn gallu dod ymlaen mewn bywyd, i beidio â chael eich eithrio oherwydd nad ydych yn byw yn y lle iawn, neu oherwydd na all eich rhieni fforddio'r dysgu, pan fyddwch yn 11 oed, er mwyn i chi basio arholiad i fynd i ysgol ramadeg. Mae'r gwerthoedd a welwn, yn cael eu harddel gan yr academi, yn werthoedd y system addysg yng Nghymru, ac yn werthoedd yr wyf i’n falch ohonynt.
Yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n codi heddiw i groesawu'r datganiad hwn ar arweinyddiaeth addysg. Mae gan Gymru etifeddiaeth falch o athrawon ac arweinyddiaeth ysgol o ansawdd uchel. Fodd bynnag, cafodd y cyhoeddiad am sefydlu bwrdd cysgodol presennol yr academi fis Tachwedd diwethaf groeso eang. Mae'n wir galonogol clywed bod y bwrdd cysgodol wedi cychwyn yn hyfedr, a chroesawaf yn fawr y ffaith ein bod yn edrych ar yr arferion gorau o bedwar ban byd, gan gynnwys Canada, Singapore a Seland Newydd. Yn rhy aml, mae amser ac egni yn cael eu gwastraffu wrth geisio ail-greu'r olwyn pan fo systemau addysg eraill eisoes wedi dod o hyd i atebion creadigol i broblemau cyffredin. Wrth i’r cynllun ar gyfer yr academi arweinyddiaeth esblygu, a gaf i ofyn a fydd y gyfres o sioeau teithiol rhanbarthol yn cynnwys Islwyn? Hefyd, sut fydd y sioeau teithiol hyn yn cael eu hysbysebu i randdeiliaid, a sut fydd gweithwyr proffesiynol prysur, fel y soniwyd eisoes, yn cael eu hannog i fynd iddynt a chymryd rhan?
Heddiw, hoffwn gydnabod gwaith eich rhagflaenydd, Huw Lewis, a ddywedodd, pan gyhoeddodd strategaeth arweinyddiaeth newydd Llywodraeth Cymru, ein bod yn gwybod bod arweinyddiaeth ysgol a choleg yn ail yn unig i addysgu yn y dosbarth fel dylanwad ar ddysgu disgybl—a bydd hyn yn hollbwysig dros y blynyddoedd nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, o'ch datganiad, nodaf eich bod yn cyfeirio at y ffaith, o fis Medi 2017 ymlaen, y bydd amrywiaeth o raglenni cyffredin ar gael i weithwyr proffesiynol. A oes gennych amcangyfrif o faint o'n harweinwyr ysgolion fydd yn gallu cael gafael ar y rhaglenni hyn, a pha sicrwydd, yn y cyfnod cynnar, allwn ni ei gael y byddant ar gael ar draws Cymru?
Bydd y sioeau teithiol yn dechrau ar 12 Mehefin. Nid wyf yn gwybod a fydd y sioe deithiol yn cynnwys eich etholaeth chi, ond dwi'n hapus i roi manylion. Bydd manylion y sioe deithiol yn cael eu rhoi trwy’r holl ffynonellau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys 'Dysg' ac yn cynnwys y dudalen Facebook newydd 'Addysg Cymru’. Byddwn yn annog Aelodau—os ydynt am gadw i fyny â’r holl bethau ynghylch 'Addysg Cymru’—i hoffi'r dudalen Facebook newydd. Ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda rhagor o fanylion am hynny.
Holl bwynt cael yr academi yw sicrhau bod darpariaeth deg ar draws y wlad a’i bod o'r un ansawdd ar gyfer ein holl weithwyr proffesiynol, ni waeth ble maen nhw. Ac mae’r Aelod yn hollol gywir; os ydym am gael system addysg o'r radd flaenaf, mae'n rhaid i ni gael arweinwyr o'r radd flaenaf. Mae gennym lawer yng Nghymru, ond dim digon, a bod yn onest, ac mae angen i ni wneud mwy. Prif bwrpas yr academi hon yw rhoi'r arweinyddiaeth sydd ei hangen arnom ni i sicrhau, fel y dywedais, fod ein cenhadaeth genedlaethol yn cael ei chyflawni: bod gennym system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac, yn bwysicach i’r rhieni, hyder cenedlaethol.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.