Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 16 Mai 2017.
Hoffwn ddiolch i'r ddau lefarydd am eu sylwadau heddiw ac am eu cefnogaeth i’r Bil. Rwy’n edrych ymlaen at weithredu'r Bil yn awr, gan fy mod o’r farn bod ganddo botensial gwirioneddol i wella iechyd cyhoeddus pobl Cymru, ac edrychaf ymlaen at gydweithio ac ymgysylltu ag Aelodau ar draws y Cynulliad yn y cyfnod gweithredu, y byddwn yn symud iddo nesaf. Diolch.