Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 16 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelod am godi'r mater pwysig yma heddiw. Mae hi'n hollol iawn i dynnu sylw at risg cynyddol a difrifol. Dymuniadau gorau i’w mam, hefyd, wrth iddi adnewyddu ei chartref.
Er bod tanau ac anafiadau tân yn gostwng yn sylweddol, Llywydd—o tua hanner ers i’r cyfrifoldeb gael ei ddatganoli yn 2005—rydym ni a'r gwasanaeth tân yn falch iawn o hynny, ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Rydym wedi clywed manylion am hynny heddiw. Yn benodol, mae tanau mewn anheddau o ganlyniad i bron pob achos wedi gostwng, ond mae tanau trydanol yn dangos cynnydd cyson a pharhaus yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Y rhain yn awr yw'r ail ffynhonnell fwyaf cyffredin o dân mewn tŷ, ar ôl poptai.
Mewn ymateb, mae ein gwasanaethau tân yn darparu llawer iawn o gymorth a chyngor am atal tanau trydanol. Er enghraifft, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, maent wedi dosbarthu bron 6,500 o ddarnau o offer diogelwch trydanol i gartrefi mewn angen yn rhad ac am ddim, a hynny wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, fel y clywsom, nid yw hyn wedi bod yn ddigon i wrthsefyll y cynnydd parhaus, sy'n peri pryder, mewn tanau trydanol. Mae’r tueddiadau ar y raddfa hon yn ôl pob tebyg yn adlewyrchu newid cymdeithasol sylfaenol. Mae'n hanfodol ein bod yn deall y newidiadau hynny os ydym i ymateb yn effeithiol. Ac mae Dawn yn iawn; mae nifer y gwefrwyr mewn cartrefi, a pheiriannau gemau ac ati yn y cartrefi hyn, wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd. Gall y rhesymau ymddangos yn amlwg, fel y mae’r Aelod yn dweud—yr holl ddyfeisiau cludadwy, ffonau symudol, cyfrifiaduron llechen, gliniaduron, e-sigaréts, camerâu ac yn y blaen—ac mae gwefru’r rhain yn gwbl ddiogel os caiff ei wneud yn iawn gyda’r gwefrydd priodol. Ond efallai y caiff pobl eu temtio i dorri corneli ac efallai y byddant yn defnyddio'r un gwefrydd ar gyfer dyfeisiau gwahanol iawn, neu gael gwefrydd newydd a allai fod yn rhad, ond heb fod yn ddiogel, fel y cyfeiriodd Mike Hedges ato. Neu efallai y byddant yn gorlwytho eu cylchedau trydan drwy ddefnyddio addaswyr aml-blwg i wefru sawl dyfais ar yr un pryd.
Mae llawer o'r pwyslais, Llywydd, yn y fan hon wedi bod ar nwyddau trydanol ffug neu rai sydd heb eu brandio, ac rwy’n cydnabod y risgiau diogelwch y gallant eu peri. Ac rwyf yn croesawu gwaith grwpiau fel Electrical Safety First, y mae eu hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau hynny yn gyfarwydd iawn. Ond nid cynhyrchion ffug yw'r unig broblem; efallai nad cynhyrchion ffug yw’r brif broblem ychwaith. Rydym wedi clywed popeth am y cynhyrchion dilys hyn, wedi’u brandio, o beiriannau sychu dillad i gyfrifiaduron llechen, sydd wedi gorfod cael eu galw yn ôl yn ddiweddar oherwydd risgiau tân hefyd. Yn fwy na hynny, mae diogelwch tân yn ymwneud llawn cymaint â newid arferion ag â dyluniad y cynnyrch, ac ni fyddwn yn argymell unrhyw un i fynd i gysgu gyda gwefrydd ffôn o dan ei obennydd; gallai arwain at glustiau cynnes iawn, a dweud y lleiaf. Mae bron pob cynnyrch yn ddiogel os caiff ei ddefnyddio'n iawn, Llywydd. Ond nid oes yr un ohonynt, yn gyfreithlon neu’n ffug, yn ddiogel os caiff ei gamddefnyddio, neu, os na chaiff ei drwsio pan yw’n ddiffygiol, mae'n bwysig peidio ag anwybyddu’r neges honno.
Felly, nid yw'r ateb mor syml â hynny, ac nid yw'r gwendid yn y data sydd gennym yn helpu. Nid yw’r system a ddefnyddir gan y gwasanaeth tân yn y DU i gofnodi tanau a’u hachosion wedi ei chadw’n gyfoes i gyd-fynd â’r newidiadau cymdeithasol a thechnolegol yr ydym wedi eu gweld, a byddaf yn edrych ar hynny'n fanwl. Er enghraifft, mae’r system yn dweud yn union faint o danau yn y cartref sydd wedi’u hachosi gan weisg trowseri neu offer weldio, ond nid ydym yn gwybod faint o danau a achoswyd gan wefrwyr ffôn neu e-sigaréts, ac mae hynny'n sicr yn arwydd o'r cyfnod. Byddwn yn parhau i bwyso am welliannau yn y system honno. I ddatrys hyn, rydym wedi dechrau comisiynu rhywfaint o waith ymchwil manwl i'r broblem, yn cynnwys ein gwasanaethau tân ac Electrical Safety First. Bydd yn ceisio nodi achosion y tueddiadau diweddar a'r ffordd orau o fynd i'r afael â nhw, a byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y manylion hynny.
Yn y cyfamser, mae rhai camau syml y gall pobl eu cymryd i fod yn ddiogel. Byddwn yn annog pobl i chwilio am gyngor a dilyn y cyngor a gânt gan y gwasanaeth tân neu Electrical Safety First. A dylai'r rheini sydd yn arbennig o agored i niwed neu mewn perygl gael archwiliad diogelwch cartref llawn gan y gwasanaeth tân. Mae’r archwiliad cartref yn cwmpasu ystod eang o risgiau, gan gynnwys tanau trydanol, ac mae’n cynnwys offer diogelwch rhad ac am ddim ar gyfer y rhai hynny sydd ei angen hefyd. Llywydd, mae Dawn Bowden wedi codi dadl bwysig iawn heddiw, a gallai ddigwydd i unrhyw un yn unrhyw le. Wrth gloi, hoffwn ailfynegi fy niolch i Dawn am godi'r mater hwn, a gallaf ei sicrhau hi a'r Cynulliad y byddwn ni, a'n cydweithwyr yn y gwasanaeth tân, yn ceisio mynd i'r afael â hyn mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl. Diolch.