8. 8. Dadl Fer: Tanau Trydanol — Bygythiad Cynyddol yn yr Oes Dechnolegol sydd Ohoni

– Senedd Cymru am 5:10 pm ar 16 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:10, 16 Mai 2017

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni, felly, yw’r ddadl fer, ac rydw i’n symud i’r ddadl fer, ac rydw i’n galw ar Dawn Bowden i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi, ac rydw i’n gofyn i bawb arall i adael y Siambr yn dawel.

If all Members who are leaving could leave the Chamber quietly—we still have important business to hear. Dawn Bowden.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:11, 16 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gyflwyno’r ddadl hon heddiw, gan fy mod yn y misoedd diwethaf wedi gallu cwrdd â chynrychiolwyr o Electrical Safety First a siarad â nhw am yr ystadegau y maent wedi eu darparu, yn enwedig ynghylch tanau a achoswyd oherwydd diffyg gofal gydag offer a dyfeisiau trydanol. Ac rwy’n falch hefyd o roi munud o fy amser i Mike Hedges er mwyn iddo gyfrannu at y ddadl hon.

Mae'n amserol, efallai, fod y cyfle hwn wedi codi i mi siarad yn awr ar y pwnc hwn, gan fod fy mam fy hun wedi dioddef tân yn y cartref yn ddiweddar, sydd wedi achosi iddi orfod symud allan o'i chartref, am sawl mis fwy na thebyg. Achoswyd y tân bron yn sicr gan wifrau diffygiol neu offer trydanol. Roedd hi allan yn cerdded y ci pan ddechreuodd y tân. Yn ffodus dim ond am ryw 20 munud yr oedd hi allan, a phan gyrhaeddodd adref llwyddodd i gael cymorth yn gyflym cyn i’r tân gymryd gafael ar y tŷ cyfan. Er gwaethaf y camau cynnar hynny, roedd y difrod a achoswyd gan y tân a’r mwg yn sylweddol, a bydd rhaid adnewyddu’r tŷ cyfan.

Yng Nghymru, mae ystadegau yn dangos lleihad cyson yn nifer y tanau mawr rhwng 2010 a 2015, ond gwelwyd cynnydd yn y flwyddyn hyd at 2016. Ymddengys bod tanau o nwyddau gwyn ar lefel gyson yn gyffredinol yn ystod yr un cyfnod, a bu gostyngiad amlwg a chyson, fel y byddem fwy na thebyg yn ei ddisgwyl, yn y tanau simnai. Ond nid ydym wedi gweld gostyngiad cyffredinol mewn tanau damweiniol. Gallai'r rheswm am hynny fod yn nheitl y ddadl hon: tanau trydanol yn yr oes dechnolegol sydd ohoni.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:11, 16 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siwr fod eich cartrefi chi, fel fy un i a llawer o rai eraill y dyddiau hyn, yn cynnwys llu o ddyfeisiau cyfathrebu symudol. Yn eich cartrefi, bydd gan bob un ohonoch ffonau Cynulliad ac iPads Cynulliad, a heb amheuaeth bydd gan lawer ohonoch ffonau symudol a chyfrifiaduron llechen personol o ryw fath hefyd.  Gan nad yw’r rhan fwyaf o deuluoedd bellach yn dibynnu ar un ffôn tŷ sefydlog, mae'n eithaf tebygol y bydd gan bob aelod o'r teulu hefyd ei ffôn symudol a’i ddyfais gyfrifiadurol gludadwy ei hun. Ac, os oes gennych gyn ysmygwyr yn y tŷ, mae'n debyg y bydd gennych ddyfeisiau e-sigaréts hefyd. Mae pob un o'r dyfeisiau hyn, neu bob un o'r unedau hyn, yn dibynnu ar wefrwyr symudol, sydd yn anochel yn cynyddu'r risg o danau, dim ond oherwydd y niferoedd enfawr ohonyn nhw sydd gennym, ond mae i’r dyfeisiau hyn eu risgiau penodol eu hunain hefyd.

Oherwydd natur y dyfeisiau, nid ydym yn tueddu i'w defnyddio pan fyddwn yn cysgu, felly mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu gwefru nhw dros nos, ac mae hyn, wrth gwrs, yn golygu nad ydym yn sylwi os ydynt yn dechrau poethi. A faint o bobl sy’n gadael dyfeisiau yn gorffwys ar rywbeth a allai fod yn fflamadwy, fel clustog neu gadair feddal, wrth eu gwefru? Yn wir, mae rhai pobl ynghlwm wrth eu ffonau symudol i’r fath raddau nes eu bod yn gwefru’r ffonau dan eu clustogau. A chan fod gennym gymaint o ddyfeisiau, rydym hefyd yn prynu gwefrwyr sbâr. Mae gwefrwyr sbâr y gweithgynhyrchwyr yn cael eu hystyried yn ddrud yn aml, ac mae cymaint o ddewisiadau eraill rhad i’w prynu ar y rhyngrwyd, sy’n aml yn ddewis deniadol. Ac rwy’n credu bod hwn yn fater y mae Mike Hedges am ei grybwyll yn ei gyfraniad yn ddiweddarach, felly gadawaf iddo ef ymhelaethu ar y peryglon cynhenid y mae hyn yn eu cyflwyno.

Felly, beth allwn ni ei wneud i wella diogelwch trydanol? Yn ddiddorol, mae gennym reoliadau sy'n gofyn i landlordiaid preifat gynnal gwiriadau diogelwch blynyddol ar ffitiadau ac offer nwy, ond nid oes unrhyw drefn o’r fath yn bodoli ar gyfer offer trydanol. Gallai hyn fod yn fan cychwyn. Yn y Cynulliad diwethaf, cafwyd cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru y byddai rheoleiddio yn fuddiol o safbwynt diogelwch tân, ond hyd yma ni chyflawnwyd hynny. Byddai trefn ragofalus o’r fath yn sicr yn fodd o leihau'r risg i denantiaid yn sylweddol a hynny ar gost gymharol isel i landlordiaid—tua £100 i £150 ar gyfer unrhyw gyfnod prawf dynodedig—a byddai hefyd yn amddiffyn eu buddsoddiad eiddo.

Wrth gwrs, rydym yn tybio mai’r cynnydd yn y defnydd o ddyfeisiau symudol a gwefrwyr sy’n gyfrifol am y nifer cynyddol o danau damweiniol. Ond mewn gwirionedd nid yw’r cofnodion a gedwir gan nifer o awdurdodau tân, yn rhyfedd iawn, yn categoreiddio dyfeisiau symudol fel un o’r achosion, er bod y rhan fwyaf yn dal i gofnodi tanau simneiau, sydd bellach yn gymharol brin. Mae hyn yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru annog yr awdurdodau tân i’w newid fel y gallwn o leiaf ddeall maint y broblem.

Yn olaf, Llywydd, ni fydd unrhyw reoleiddio yn y sector rhentu preifat yn diogelu perchnogion tai, a fydd, yn ddiamau, hefyd yn anghofio’r risgiau sy'n gysylltiedig â chyfarpar trydanol, yn enwedig dyfeisiau symudol. Ond gallwn ni i gyd geisio ymgyfarwyddo â'r peryglon posibl a bod yn fwy cyfrifol o ran sut y byddwn yn defnyddio offer trydanol ac, yn bwysig iawn, y math o offer trydanol a brynwn. Ers fy nhrafodaethau gydag Electrical Safety First, rwyf i yn sicr wedi newid fy arferion wrth ddefnyddio offer trydanol, a’r hyn yr wyf yn ei brynu.

I gloi, Llywydd, yr hyn yr wyf i'n gobeithio amdano wrth gyflwyno'r ddadl hon yw trafodaeth ar ailystyried cyflwyno trefn reoleiddio ar gyfer profion trydanol yn y sector rhentu preifat; rhagor o waith ymchwil, gan gynnwys newidiadau i'r wybodaeth a gofnodir gan awdurdodau tân am achosion tanau; ac ymgyrch gyffredinol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ar atal tanau trydanol. Gadewch i ni weithredu nawr i leihau risgiau tân diangen ond cyffredin yn ein cartrefi a achosir gan anwybodaeth ynghylch diogelwch trydanol. Diolch.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:17, 16 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am roi munud i mi yn y ddadl hon. Rwyf am sôn am ddau beth: sythwyr gwallt a gwefrwyr. Dyma enghreifftiau o danau o ganlyniad i sythwyr gwallt: gwraig y bu’n rhaid ei hachub o'i chartref a aeth ar dân ar ôl i bâr o sythwyr gwallt gael eu gadael ymlaen ar lawr pren a chychwyn tân. Roedd yn rhaid iddi gael ei hachub gan ddiffoddwyr tân; cafodd dau fachgen ifanc eu hachub o ystafell wely mewn tŷ yn Pinner, yng ngogledd Llundain, gan ddiffoddwyr tân ar ôl tân a ddechreuwyd gan sythwyr gwallt. Mae llawer o bobl yn defnyddio sythwyr gwallt. Nid wyf i, gyda llaw, ond mae llawer o bobl yn gwneud hynny. Nid wyf yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hynny ychwaith, ond efallai fy mod yn anghywir. [Chwerthin.] Mae llawer o bobl yn gwneud hynny. Maent yn cyrraedd tymheredd uchel iawn a gallant fod yn beryglus. Er na arweiniodd y ddwy enghraifft hyn at farwolaeth, os nad ydym yn mynd i’r afael â hyn bydd marwolaeth yn digwydd yn y pen draw.

A gwefrwyr. Mae’r ffaith bod cymaint o ddewisiadau generig rhad ar gael ar-lein, yn ôl arbenigwyr diogelwch tân, yn hynod beryglus. Gall gwefrwyr ar safleoedd ocsiwn gostio llai na £1 ac mae’r rhai gan y gwneuthurwr priodol yn costio dros £15. A yw'n unrhyw syndod bod pobl yn prynu’r rhai rhatach? Ond yr hyn y mae’r gwefrydd yn ei wneud, mewn gwirionedd, yw gostwng maint y trydan a ddefnyddir—y foltedd—i lawr i'r foltedd sydd ei angen i wefru’r batris. Ond os ydynt yn wefrwyr generig, yr hyn sy’n digwydd yw nad ydynt o bosib yn gweithio'n effeithiol, a gallant achosi i lawer o wres gael ei gynhyrchu. Canfu'r elusen Electrical Safety First bod hanner y gwefrwyr wedi’u gwifrio â chydran sy’n is na’r safon ofynnol, ac nad oedd yr un ohonynt yn bodloni gofynion diogelwch Rheoliadau Offer Trydanol (Diogelwch) 1994. Oni chaiff rhywbeth ei wneud am hyn, rydym yn mynd i gael tanau ac mae pobl yn mynd i farw.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:19, 16 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelod am godi'r mater pwysig yma heddiw. Mae hi'n hollol iawn i dynnu sylw at risg cynyddol a difrifol. Dymuniadau gorau i’w mam, hefyd, wrth iddi adnewyddu ei chartref.

Er bod tanau ac anafiadau tân yn gostwng yn sylweddol, Llywydd—o tua hanner ers i’r cyfrifoldeb gael ei ddatganoli yn 2005—rydym ni a'r gwasanaeth tân yn falch iawn o hynny, ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Rydym wedi clywed manylion am hynny heddiw. Yn benodol, mae tanau mewn anheddau o ganlyniad i bron pob achos wedi gostwng, ond mae tanau trydanol yn dangos cynnydd cyson a pharhaus yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Y rhain yn awr yw'r ail ffynhonnell fwyaf cyffredin o dân mewn tŷ, ar ôl poptai.

Mewn ymateb, mae ein gwasanaethau tân yn darparu llawer iawn o gymorth a chyngor am atal tanau trydanol. Er enghraifft, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, maent wedi dosbarthu bron 6,500 o ddarnau o offer diogelwch trydanol i gartrefi mewn angen yn rhad ac am ddim, a hynny wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, fel y clywsom, nid yw hyn wedi bod yn ddigon i wrthsefyll y cynnydd parhaus, sy'n peri pryder, mewn tanau trydanol. Mae’r tueddiadau ar y raddfa hon yn ôl pob tebyg yn adlewyrchu newid cymdeithasol sylfaenol. Mae'n hanfodol ein bod yn deall y newidiadau hynny os ydym i ymateb yn effeithiol. Ac mae Dawn yn iawn; mae nifer y gwefrwyr mewn cartrefi, a pheiriannau gemau ac ati yn y cartrefi hyn, wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd. Gall y rhesymau ymddangos yn amlwg, fel y mae’r Aelod yn dweud—yr holl ddyfeisiau cludadwy, ffonau symudol, cyfrifiaduron llechen, gliniaduron, e-sigaréts, camerâu ac yn y blaen—ac mae gwefru’r rhain yn gwbl ddiogel os caiff ei wneud yn iawn gyda’r gwefrydd priodol. Ond efallai y caiff pobl eu temtio i dorri corneli ac efallai y byddant yn defnyddio'r un gwefrydd ar gyfer dyfeisiau gwahanol iawn, neu gael gwefrydd newydd a allai fod yn rhad, ond heb fod yn ddiogel, fel y cyfeiriodd Mike Hedges ato. Neu efallai y byddant yn gorlwytho eu cylchedau trydan drwy ddefnyddio addaswyr aml-blwg i wefru sawl dyfais ar yr un pryd.

Mae llawer o'r pwyslais, Llywydd, yn y fan hon wedi bod ar nwyddau trydanol ffug neu rai sydd heb eu brandio, ac rwy’n cydnabod y risgiau diogelwch y gallant eu peri. Ac rwyf yn croesawu gwaith grwpiau fel Electrical Safety First, y mae eu hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau hynny yn gyfarwydd iawn. Ond nid cynhyrchion ffug yw'r unig broblem; efallai nad cynhyrchion ffug yw’r brif broblem ychwaith. Rydym wedi clywed popeth am y cynhyrchion dilys hyn, wedi’u brandio, o beiriannau sychu dillad i gyfrifiaduron llechen, sydd wedi gorfod cael eu galw yn ôl yn ddiweddar oherwydd risgiau tân hefyd. Yn fwy na hynny, mae diogelwch tân yn ymwneud llawn cymaint â newid arferion ag â dyluniad y cynnyrch, ac ni fyddwn yn argymell unrhyw un i fynd i gysgu gyda gwefrydd ffôn o dan ei obennydd; gallai arwain at glustiau cynnes iawn, a dweud y lleiaf. Mae bron pob cynnyrch yn ddiogel os caiff ei ddefnyddio'n iawn, Llywydd. Ond nid oes yr un ohonynt, yn gyfreithlon neu’n ffug, yn ddiogel os caiff ei gamddefnyddio, neu, os na chaiff ei drwsio pan yw’n ddiffygiol, mae'n bwysig peidio ag anwybyddu’r neges honno.

Felly, nid yw'r ateb mor syml â hynny, ac nid yw'r gwendid yn y data sydd gennym yn helpu. Nid yw’r system a ddefnyddir gan y gwasanaeth tân yn y DU i gofnodi tanau a’u hachosion wedi ei chadw’n gyfoes i gyd-fynd â’r newidiadau cymdeithasol a thechnolegol yr ydym wedi eu gweld, a byddaf yn edrych ar hynny'n fanwl. Er enghraifft, mae’r system yn dweud yn union faint o danau yn y cartref sydd wedi’u hachosi gan weisg trowseri neu offer weldio, ond nid ydym yn gwybod faint o danau a achoswyd gan wefrwyr ffôn neu e-sigaréts, ac mae hynny'n sicr yn arwydd o'r cyfnod. Byddwn yn parhau i bwyso am welliannau yn y system honno. I ddatrys hyn, rydym wedi dechrau comisiynu rhywfaint o waith ymchwil manwl i'r broblem, yn cynnwys ein gwasanaethau tân ac Electrical Safety First. Bydd yn ceisio nodi achosion y tueddiadau diweddar a'r ffordd orau o fynd i'r afael â nhw, a byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y manylion hynny.

Yn y cyfamser, mae rhai camau syml y gall pobl eu cymryd i fod yn ddiogel. Byddwn yn annog pobl i chwilio am gyngor a dilyn y cyngor a gânt gan y gwasanaeth tân neu Electrical Safety First. A dylai'r rheini sydd yn arbennig o agored i niwed neu mewn perygl gael archwiliad diogelwch cartref llawn gan y gwasanaeth tân. Mae’r archwiliad cartref yn cwmpasu ystod eang o risgiau, gan gynnwys tanau trydanol, ac mae’n cynnwys offer diogelwch rhad ac am ddim ar gyfer y rhai hynny sydd ei angen hefyd. Llywydd, mae Dawn Bowden wedi codi dadl bwysig iawn heddiw, a gallai ddigwydd i unrhyw un yn unrhyw le. Wrth gloi, hoffwn ailfynegi fy niolch i Dawn am godi'r mater hwn, a gallaf ei sicrhau hi a'r Cynulliad y byddwn ni, a'n cydweithwyr yn y gwasanaeth tân, yn ceisio mynd i'r afael â hyn mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:24, 16 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd ein trafodion heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:24.