<p>Busnesau sy’n Ffynnu ar y Stryd Fawr</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:30, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, oherwydd gweithgarwch rhai o’r cadwyni manwerthu mwy, sy’n gallu fforddio ysgwyddo colledion, mae llawer o’n siopau bach annibynnol yn mynd i’r wal, gan ddinistrio amrywiaeth ein stryd fawr. Pa gymhellion economaidd y gall eich Llywodraeth eu cynnig i fanwerthwyr bach annibynnol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i oroesi, ac er mwyn osgoi dyfodol lle mae ein strydoedd mawr yn glonau o’i gilydd, dan oruchafiaeth y cadwyni corfforaethol? Ac a fyddwch yn trafod y posibilrwydd o ostwng y trothwy TAW gyda Llywodraeth y DU, yn ogystal â graddio trothwyon TAW, ar gyfer busnesau llai?