<p>Busnesau sy’n Ffynnu ar y Stryd Fawr</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:32, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, un ffordd o sicrhau bod busnesau ein stryd fawr yn ffynnu yng Nghymru yw sicrhau bod ein stryd fawr mor hygyrch â phosibl, drwy ddatblygu strategaethau parcio sy’n ystyried yr amgylchiadau lleol mewn perthynas â chynllun canol trefi unigol. Nawr, rwy’n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn gwerth £3 miliwn y llynedd i gynorthwyo awdurdodau lleol i dreialu cynlluniau parcio am ddim yng nghanol eu trefi. Felly, o dan yr amgylchiadau, a allwch ddweud wrthym sawl busnes canol tref a’r stryd fawr, a sawl stryd fawr yn unigol, sydd eisoes wedi elwa o’r cymorth hwn?