<p>Cofnodi ein Treftadaeth Ddiwylliannol </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 1:38, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Cyd-ddigwyddiad, ond diolch am eich sylwadau. Yng nghyd-destun safle treftadaeth y byd traphont Pontcysyllte, credaf fod wyth mlynedd wedi bod bellach ers ennill y statws hwnnw, a chredaf fod wyth mlynedd wedi bod ers i Lywodraeth Cymru ar y pryd sefydlu corff partneriaeth rhanbarthol cyntaf i lywio’r cynnig treftadaeth ddiwydiannol rhanbarthol, gan ymgorffori, o bosibl, rheilffordd Llangollen, y camlesi, dyffryn Ceiriog, a Brymbo, fel y crybwyllwyd gennych, ond gan ymestyn draw i lwybrau treftadaeth Sir y Fflint, dyffryn Rhyd-y-mwyn, Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas, a llawer iawn mwy. Ond rydym eto i gael yr ymagwedd gydgysylltiedig honno. Nid oes gennym y tocynnau trwodd y mae cyrff megis rheilffordd Llangollen yn eu cynnig. Ac un pryder a fynegwyd wrthyf oedd nad yw’r cyrff wedi cael eu cynrychioli’n ddigonol gan gyrff twristiaeth a threftadaeth y rhanbarth. Mae’n dda fod Glandŵr Cymru yn cefnogi, ond ble mae’r lleill? A ydych yn cytuno â mi, felly, fod angen i ni ymgorffori’r lleisiau ehangach hynny’n well, fel y gallant, gyda’i gilydd, gyflwyno’r argymhellion a all gyflawni, o’r diwedd, yr amcanion y credaf ein bod ein dau yn eu rhannu?