<p>Cofnodi ein Treftadaeth Ddiwylliannol </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:39, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Cytunaf yn llwyr â’r Aelod. Rwyf wedi bod yn awyddus i annog symud yn gyflym, ac yn ddynamig, i’r cyfeiriad a amlinellwyd ganddo. Yn sicr, hoffwn weld mwy o docynnau trwodd. Hoffwn weld mwy o gydweithio rhwng ac ymhlith y gwahanol sefydliadau sy’n ymwneud â’r sector diwylliant a threftadaeth yng ngogledd-ddwyrain diwydiannol Cymru. Ac oherwydd hynny, credaf efallai y byddai’n syniad da cynnull uwchgynhadledd diwylliant a threftadaeth yn ystod yr haf, i ddod â’r sefydliadau hynny ynghyd, gan gynnwys Glandŵr Cymru yr oedd yr Aelod yn gywir i nodi ei fod yn brif bartner yng ngweithgaredd safle treftadaeth y byd Pontcysyllte, a thrwy ddod â’r gwahanol fuddiannau hynny ynghyd, credaf ei bod yn bosibl y gallwn wneud cynnydd.