Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 17 Mai 2017.
Yn y cyd-destun a wnaeth. Dylai’r Aelod dynnu hynny yn ôl, gan fod yr hyn a ddywedais yn yr atebion ysgrifenedig hynny yn wir ac yn ffeithiol—yn wir ac yn ffeithiol. A dywedaf eto: fy ngwaith yw sicrhau bod prosiectau a all ennyn cefnogaeth y Llywodraeth, sydd wedi profi eu bod yn gynaliadwy ac yn creu’r swyddi y maent yn honni eu bod yn eu creu ar gyfer y cymunedau y mae’n rhaid iddynt eu gwasanaethu—. Pobl Glynebwy sydd o ddiddordeb i mi; ymddengys mai hunan-les gwleidyddol sydd o ddiddordeb i chi. Mae gwahaniaeth mawr—gwahaniaeth mawr—rhwng uchelgais a byrbwylltra. Ni fyddaf yn osgoi’r broses ddiwydrwydd dyladwy. Beth y credwch y byddai’r archwilydd cyffredinol yn ei ddweud amdanoch pe baech yn argymell osgoi’r broses ddiwydrwydd dyladwy, pe baech yn fy lle i? A ydych yn credu y byddai’r archwilydd cyffredinol yn eich cefnogi yn hynny o beth?