Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 17 Mai 2017.
A; wel, dyna ni. Dyna ni, a dyna’r pwynt. Rydych yma i graffu arnaf, ond nid ydych am wrando. Rydych ond eisiau rhoi pregeth ar sut i osgoi diwydrwydd dyladwy. Nid dyna eich rôl. [Torri ar draws.] Nid dyna eich rôl. [Torri ar draws.] Eich rôl yw sicrhau eich bod yn craffu—[Torri ar draws.]—ar y wybodaeth a gyflwynir i chi, ond nid ydych yn dymuno gwneud hynny. [Torri ar draws.] Nid ydych yn dymuno gwneud hynny. Yr hyn rydych yn dymuno’i wneud—