Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 17 Mai 2017.
Ynghyd â’r buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith, mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi darparu cyfleoedd allweddol ar gyfer economïau rhanbarthol. Nodaf fod Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar y strategaeth ddiwydiannol. A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi eich ymateb i’r ymgynghoriad i Aelodau’r Cynulliad ar unwaith, ac os na wnewch, pam hynny?