Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 17 Mai 2017.
Rwy’n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynllun i ddeuoli ffordd Blaenau’r Cymoedd. Mae’n gynllun rydym yn hynod falch ohono yn y Llywodraeth. Credaf mai fy nghyd-Aelod Carl Sargeant a roddodd y cynllun ar waith ar ôl i Weinidog trafnidiaeth neu ddatblygiad economaidd blaenorol o blaid wahanol ei ohirio, rwy’n credu. Felly, byddaf yn fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â chynnydd mewn perthynas â’r darn hynod bwysig hwn o seilwaith ar gyfer ffordd Blaenau’r Cymoedd.