Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 17 Mai 2017.
Mae’r Aelod yn gwneud pwynt da iawn, sy’n berthnasol, mewn gwirionedd, i lawer o gymunedau eraill sydd â safleoedd treftadaeth pwysig ar garreg eu drws. O ganlyniad i’r gwaith a fu’n mynd rhagddo wrth i’r grŵp llywio edrych ar addewid polisi Cymru Hanesyddol, bydd rhyngweithio llawer agosach bellach rhwng y rhai sy’n rheoli Big Pit a gweithfeydd haearn Blaenafon. Credaf, o ganlyniad i hynny, y bydd mwy o ffocws ar raglenni hygyrchedd ac allgymorth. Os gallant weithio ar y cyd gyda’i gilydd, a rhannu adnoddau—sy’n brin iawn, rwy’n cyfaddef—credaf y bydd cyfleoedd i hysbysebu’r asedau bendigedig hynny’n well i’r bobl sy’n byw yn yr ardal gyfagos, ond hefyd i alluogi gwell cysylltiadau trafnidiaeth a hygyrchedd ar gyfer y ddau safle. Credaf fod cryn botensial ar gyfer tocynnau ar y cyd ar draws y rhanbarth, fel y gall mwy o bobl gael mynediad i fwy o safleoedd treftadaeth yn fwy aml.