<p>Lleddfu Tagfeydd i’r Dwyrain o Gaerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:59, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, canfu arolwg diweddar gan INRIX Roadway Analytics fod busnes yng Nghaerdydd yn cael ei effeithio’n arbennig o wael gan dagfeydd. Credaf fod angen inni fod o ddifrif ynglŷn â’r arolygon hyn ar lefel y DU. Nawr, un ffordd o leddfu traffig ar adegau prysur yw buddsoddi mewn gorsaf drenau parcffordd Caerdydd yn Llaneirwg, a chyfleusterau parcio a theithio cysylltiedig. Credaf fod eich penderfyniad i archwilio dichonoldeb yr orsaf hon wedi cael ei groesawu gan lawer. Tybed lle mae’r gwaith craffu arni erbyn hyn.