Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 17 Mai 2017.
Byddaf yn darparu gwybodaeth ysgrifenedig i’r Aelodau ynglŷn â chynnydd y camau ar bob un o’r prosiectau sydd ar waith gennym ar hyn o bryd. Yn sicr, gyda Llaneirwg, bydd creu cyfleuster parcio a theithio sylweddol yn lleihau tagfeydd i mewn i ganol dinas Caerdydd, ond bydd hefyd yn sicrhau y gall busnesau barhau i dyfu, mewn amgylchedd cystadleuol iawn dros y ffin.
Gwyddom, rhwng tagfeydd ar yr M4 a bodolaeth tollau ar bont Hafren, fod ffactorau arwyddocaol yn gweithio yn erbyn ein buddiannau wrth hybu twf economaidd. Rydym yn dymuno cael gwared ar y ddau fater hwnnw. Rwy’n falch fod y pleidiau gwleidyddol yn Llundain bellach wedi cydnabod yr angen i gael gwared ar dollau pont Hafren.
Mae’n hanfodol bellach ein bod yn datrys problemau tagfeydd yr M4. Ond ni fydd hynny’n digwydd drwy ffordd liniaru’r M4 yn unig—mae angen cryn fuddsoddiad yn y seilwaith a fydd yn galluogi pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac yn wir, i ymgymryd â theithio llesol i mewn i ganol y ddinas ac o’i amgylch.