Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch i’r Gweinidog am hynny, ac rwy’n cydnabod y rhan y mae hi wedi’i chwarae yn cyflwyno’r rhaglen hon a gwella mynediad at fand eang ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru, ond fe fydd yn gwybod bod llawer gennym i’w wneud eto. Rwy’n treulio cryn dipyn o amser yn y car yn croesi’r rhanbarth ac rydym yn colli signal ar brydiau felly mae’n anodd iawn gwneud unrhyw fusnes dros e-bost am unrhyw hyd o amser, ac mae gennyf etholwyr sy’n dal i gwyno eu bod yn cael eu trin yn wael gan y darparwyr sy’n gosod y gwasanaeth—fel un o Lansadwrn yn Sir Gaerfyrddin, sy’n ysgrifennu i ddweud bod ei ddyddiad ar gyfer gosod band eang cyflym iawn wedi cael ei ohirio. Y dyddiad gosod cyntaf oedd haf 2016, a gohiriwyd hynny tan fis Mawrth 2017 ac yna tan fis Gorffennaf 2017. Mae un arall yn dweud bod y dyddiad bob amser ‘ddau fis i ffwrdd’, pryd bynnag y caiff y dyddiad, ac mae hwnnw wedyn yn newid i ddau fis arall i ffwrdd. Felly, tybed a all y Gweinidog roi unrhyw obaith i fy etholwyr sy’n ysgrifennu ataf ynglŷn â hyn y ceir gwelliant pellach o sylwedd cyn bo hir.