Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 17 Mai 2017.
Yn gyffredinol, byddai disgwyl i werth is am sterling gefnogi allforion drwy ostwng prisiau nwyddau a allforir mewn marchnadoedd tramor. Fodd bynnag, mae ystod eang o ffactorau’n effeithio ar lefelau allforio. Waeth beth fo’r sefyllfa o ran arian treigl, mae Llywodraeth Cymru’n ymwneud yn frwd ag ystod o raglenni i hybu allforion o Gymru, a bydd yr ymdrechion hyn yn cael eu hailddyblu wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.