Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 17 Mai 2017.
Mae dibrisiant yn golygu bod allforion yn rhatach mewn arian treigl sy’n prynu, ond mae cost mewnforion yn cynyddu mewn punnoedd. Mae’r bunt wedi gostwng o $1.5 fis Mehefin diwethaf i rhwng $1.2 a $1.3, gostyngiad o 14 i 20 y cant. Ac wrth i gost mewnforion gynyddu, bydd allforion a gefnogir yn cynyddu cost allforion i fod yn ddibynnol ar ddod â deunyddiau crai yma o dramor a chynhyrchu nwyddau i’w hallforio. Mae hefyd yn cyflwyno chwyddiant i’n heconomi, sydd wedi cynyddu naw gwaith ers y llynedd.
A yw’r Gweinidog yn rhannu fy mhryder y gall allforwyr o Gymru gael eu heffeithio gan y cynnydd yng nghost y deunyddiau crai a ddaw i mewn, a hwythau eisoes wedi gosod prisiau sefydlog am eu nwyddau i’w hallforio, a’u bod yn dioddef o ganlyniad i hynny, ac a yw Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn cytuno mai’r hyn sydd ei angen arnom yw rhyw fath o sefydlogrwydd o ran arian treigl, er mwyn i bobl fod yn ymwybodol o’u sefyllfa? Rydym wedi cael y dibrisiant—mae angen i ni aros yno yn awr. Ni allwn barhau i gael ein harian treigl yn neidio i fyny ac i lawr—mae pawb yn dioddef.