<p>Cefnogi Busnesau Bach</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:13, 17 Mai 2017

Mae cyngor Wrecsam yn gwario rhyw £200 miliwn y flwyddyn ar gaffael gwasanaethau a nwyddau trwy gaffael cyhoeddus, ond mae llai na chwarter hwnnw, fel sydd yn rhy gyffredin ar draws Cymru, gyda chwmnïau o fewn y sir, a llai na hanner, neu tua hanner, yn mynd i fusnesau yn Lloegr. Nawr, mae hynny’n golled o ryw £100 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae yna datws ar gyfer cinio ysgol yn dod o Rochdale, er bod yna gwmni dosbarthu tatws yn y dref. Mae yna fara ar gyfer ciniawau ysgol yn dod o Lerpwl, er wrth gwrs bod cwmnïau fel Village Bakery yn fwy nag abl i ddarparu y cynnyrch yna. Felly, gyda chynghorau newydd yn cael eu ffurfio ar draws Cymru dros yr wythnosau yma, beth yw’ch neges chi i gynghorau Cymru ynglŷn â gwella y record siomedig iawn sydd gennym ni ar hyn o bryd o safbwynt caffael cyhoeddus yng Nghymru?