Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 17 Mai 2017.
Credaf ei bod yn bwysig iawn fod cynghorau’n cwmpasu cyfleoedd i’r gymuned fusnes yn eu hardaloedd er mwyn sicrhau y cofrestrir busnesau ar gronfa ddata GwerthwchiGymru. Ar hyn o bryd, mae’n cynnwys oddeutu 34,000 o gyflenwyr cofrestredig. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i adeiladu’r gronfa ddata, a bod unedau datblygu economaidd ac unedau caffael yr awdurdodau lleol yn gweithio’n agos gyda sefydliadau busnes—yn enwedig gyda Busnes Cymru—i ledaenu gwybodaeth ynglŷn â’r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd, ac a allai ddod ar gael dros y misoedd nesaf. Credaf fod cyfle enfawr, gyda’r gwaith a fydd yn mynd rhagddo ar sail ranbarthol mewn llywodraeth leol, i wella’r gwaith o gwmpasu ac o ledaenu’r wybodaeth sydd ei hangen ar fusnesau i ennill prosiectau caffael pwysig ac i gael eu cynnwys yn rhan o faes sy’n tyfu yn economi Cymru.