Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, daw’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru â dros £6.2 biliwn i’n heconomi, 13 y cant o gymharu ag 8 y cant yn unig yn Lloegr, 10 y cant yn yr Alban a 4 y cant yn unig yng Ngogledd Iwerddon, cyfraniad uniongyrchol o £2.7 biliwn sy’n cyfateb i 6 y cant o’n cynnyrch domestig gros. Rhagwelir y bydd y ffigur hwnnw’n cynyddu i 7 y cant erbyn 2020, ac mae hynny, wrth gwrs, yn 14 y cant o ran cyflogaeth. Mae’n amlwg y dylech chi, fel Llywodraeth, fod yn gwerthfawrogi, yn annog ac yn cefnogi’r diwydiant gwerthfawr hwn. Ond mae llawer ohono, wrth gwrs, yn cael ei gyflawni gan y rhai sy’n gweithio yn y sector preifat gyda llawer o fuddsoddiad personol a llawer o waith caled. O ystyried y baich enfawr sydd bellach yn wynebu llawer o weithredwyr twristiaeth bach—a gwn am westywyr yn Llandudno sy’n wynebu codiadau diweddar o dros 83 cant—sut rydych chi’n gweithio fel Llywodraeth i edrych, unwaith eto, ar y lluosydd ardrethi busnes er mwyn atal ein busnesau, i bob pwrpas, rhag tuag at yn ôl, a mynd i’r wal o bosibl?