Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch am y cwestiwn. Deallaf, Llywydd, eich bod wedi cytuno i gwestiynau 1 a 5 gael eu grwpio. Roedd nifer y bobl sy’n aros dros wyth wythnos am ddiagnosteg ar ddiwedd mis Chwefror 2017 41 y cant yn is nag ym mis Chwefror 2016. Dyma’r ffigur isaf ers mis Mehefin 2011. Y canolrif diweddaraf mewn perthynas ag amseroedd aros am brofion diagnostig ledled Cymru yw 2.6 wythnos.