2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 17 Mai 2017.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran lleihau amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig? OAQ(5)0170(HWS)
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cleifion yn cael profion diagnostig a thriniaeth o fewn amseroedd targed? OAQ(5)0161(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Deallaf, Llywydd, eich bod wedi cytuno i gwestiynau 1 a 5 gael eu grwpio. Roedd nifer y bobl sy’n aros dros wyth wythnos am ddiagnosteg ar ddiwedd mis Chwefror 2017 41 y cant yn is nag ym mis Chwefror 2016. Dyma’r ffigur isaf ers mis Mehefin 2011. Y canolrif diweddaraf mewn perthynas ag amseroedd aros am brofion diagnostig ledled Cymru yw 2.6 wythnos.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, mae gormod lawer o bobl yn dal i aros yn rhy hir o lawer am brofion diagnostig. Mae gennym bron i 2,000 o bobl o hyd sy’n aros dros 24 wythnos am wasanaethau diagnostig a therapi. Diagnosteg yw asgwrn cefn ein gwasanaeth iechyd, ac mae’n rhaid i ni wneud mwy i wella mynediad at brofion a chael gwared ar amseroedd aros dros 24 wythnos. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad oes neb yn y dyfodol yn gorfod aros hanner blwyddyn am brofion diagnostig?
Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol a sylweddol, fel yr amlinellais yn fy ateb cynharach. Rwy’n argyhoeddedig fod y cynnydd yn sylweddol ac yn gynaliadwy. Yn benodol, ceir sawl bwrdd iechyd—Hywel Dda, er enghraifft—heb neb yn aros dros yr amser targed perthnasol. Bydd yr her yn ymwneud â’r niferoedd sydd ar ôl, yn bennaf yn ne-ddwyrain Cymru, a sut y cânt eu datrys. Rwyf wedi bod yn glir iawn gyda’r ddau swyddog gweithredol, ond hefyd, yn benodol, gyda chadeiryddion y byrddau iechyd, fy mod yn disgwyl i bobl gyfarfod er mwyn gwneud rhagor o gynnydd eleni, oherwydd er fy mod yn dathlu’r cynnydd a wneir, ni fyddaf yn hunanfodlon tra bo cynnydd ar ôl i’w wneud a thra bo rhai pobl yn dal i aros yn rhy hir, ac rwy’n benderfynol y bydd GIG Cymru yn parhau i gyflawni ac i wella.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae mynediad at brofion diagnostig a thriniaeth yn arbennig o bwysig mewn argyfyngau, felly tybed a allwch roi sylwadau ar y ffaith fod crwner wedi dweud yn ei adroddiad diweddar yn dilyn achos trasig menyw a fu’n aros am saith awr mewn ambiwlans y tu allan i ysbyty Glan Clwyd, ac a fu farw’n fuan wedi hynny yn yr ysbyty, a dyfynnaf ei adroddiad yma:
Mae’n destun pryder mawr i mi fod fy nyletswydd statudol yn ei gwneud yn ofynnol i mi adrodd y pryderon hyn drwy adroddiadau rheoliad 28 yn rheolaidd iawn.
Felly, nid digwyddiad ynysig mo hwn. Mae’n rhywbeth sydd wedi digwydd yn rheolaidd—’yn rheolaidd iawn’, yn ôl y crwner—y tu allan i’r ysbyty penodol hwnnw. Ni allai’r fenyw druan hon, y fenyw 56 mlwydd oed hon, gael mynediad at y profion a’r driniaeth angenrheidiol yn ddigon cyflym, a gallai hynny fod wedi arwain a chyfrannu at ei marwolaeth, neu fel arall. O gofio ei fod yn fwrdd iechyd sy’n destun mesurau arbennig, ac mai chi, yn y pen draw, sy’n gyfrifol am y bwrdd iechyd hwnnw fel Ysgrifennydd y Cabinet, beth rydych yn ei wneud i gydnabod pryderon y crwner ac i sicrhau nad yw’r digwyddiadau hyn yn digwydd ‘yn rheolaidd iawn’ yn y dyfodol?
Wel, rwyf wedi disgrifio’r gwelliannau a wnaed, ond dylwn ddechrau drwy gydnabod nad yw aros am saith awr y tu allan i unrhyw adran ysbyty’n dderbyniol. Mae angen i ni fod yn glir, nid yn unig ynglŷn â lefel y gwelliant a wnaed gennym, ond i’r un graddau, o ran yr hyn nad ydym yn ei ystyried yn dderbyniol yn ein system gofal iechyd, er mwyn inni fod yn glir ynglŷn â’r gwelliant sydd ei angen. Rwy’n hyderus, gyda’r gwelliannau a wnaed—mewn gwirionedd, ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, o ran profion diagnostig, maent wedi gwneud gwelliannau sylweddol a pharhaus mewn perthynas ag aros am ddiagnosteg. Nid yw’r her ynglŷn â’r modd y mae ein system gyfan yn cydgysylltu wedi’i chwblhau. Gwn fod y cyfnodau aros y tu allan i ysbytai mewn rhai o’r safleoedd yng ngogledd Cymru yn llawer byrrach nag eraill. Felly, rwy’n disgwyl i hyn gael sylw parhaus—nid yn unig yr achos unigol y tynnwch sylw ato, ond deall y darlun ehangach—er mwyn inni gael sefyllfa sy’n dderbyniol, yn gyffredinol, ac sy’n darparu’r gofal iechyd o ansawdd uchel y mae gan bob dinesydd yng Nghymru hawl i’w ddisgwyl.
Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf y gostyngiad a nodwyd gennych yn yr amseroedd aros am brofion diagnostig. Mae’n bwysig iawn ein bod yn symud pobl drwodd mor gyflym â phosibl. Croesawaf hefyd y buddsoddiad yn y ganolfan yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a roddwyd ar waith i sicrhau bod diagnosteg yn gweithio gyda chlinigwyr ar y safle i wella’r gwasanaeth i bobl. A fyddwch yn creu mwy o’r canolfannau hyn ledled Cymru, ac os felly, a gaf fi gyflwyno cais ar ran Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, sydd mewn lle delfrydol ar gyfer canolfan o’r fath?
Wel, rwy’n cydnabod mai ef yw’r Aelod lleol dros Aberafan. Edrychwch, mae cynnydd gwirioneddol wedi’i wneud ym mhob bwrdd iechyd. Unwaith eto, mae bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi gwneud cynnydd gwirioneddol a sylweddol yn y maes hwn. Mae’r ganolfan ddiagnosteg sydd i’w lleoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn rhan o’r rhaglen ar gyfer de Cymru: datblygu gwasanaeth mwy cydgysylltiedig, a deall ble y gallai a ble y dylai’r profion hynny gael eu cynnal, gan ein bod yn cydnabod bod cael sicrwydd diagnostig, boed hynny mewn gofal heb ei drefnu neu ofal wedi’i drefnu, yn hynod bwysig ar gyfer gwneud penderfyniadau priodol ynglŷn â thriniaethau yn dilyn hynny. Nid wyf am nodi ble rwy’n bwriadu lleoli, na hyrwyddo’r achos dros leoli canolfan ddiagnostig yn ysbyty lleol penodol unrhyw un arall, ond rwy’n disgwyl i’r gwasanaeth cyfan—y cynlluniwyd ar ei gyfer, y galw y gwyddom ei fod yn bodoli yn awr, y gwyddom y bydd yn bodoli yn y dyfodol—gael system sy’n barod i ateb y gofynion cwbl ragweladwy hynny. Gwyddom, fodd bynnag, y bydd hynny’n galw am rywfaint o ddiwygio yn y ffordd y trefnwn ein gwasanaeth. Bydd angen cael sgwrs aeddfed iawn am hynny yn y dyfodol. Yn amlwg, gobeithiaf y bydd—[Anghlywadwy.]—yn helpu i hyrwyddo eu hachos.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwyddoch fod yr ystod eang o gyfarpar diagnostig newydd yn ddrud iawn ac yn effeithiol tu hwnt, gan arwain, weithiau, at fwy o archwiliadau, ac mae defnyddio’r cyfarpar newydd mor effeithlon â phosibl yn allwedd i leihau rhestrau aros—yn y nos, er enghraifft, ac ar benwythnosau, sy’n aml yn cynnig amseroedd apwyntiadau mwy cyfleus i bobl sy’n gweithio, er enghraifft.
Rwy’n cydnabod rhai o’r pwyntiau a wnaed ganddo, fel y mae’r gwasanaeth. Rydym yn buddsoddi cyfalaf sylweddol er mwyn darparu’r cyfarpar diagnostig diweddaraf. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud y defnydd gorau ohono ac yn deall yr hyn y gall fod yn ddefnyddiol ar ei gyfer. Er enghraifft, ymwelais â chyfarpar a oedd yn angenrheidiol at un diben, ond mewn gwirionedd, roedd yn gallu cyflawni profion diagnostig gwahanol. Felly, deellir hynny’n iawn o fewn y gwasanaeth, ac mae’n rhan o’r pwynt ehangach ynglŷn â’r hyn y mae diwygio’n ei olygu. Nid ad-drefnu lleoliad ffisegol gwasanaethau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yn unig y mae’n ei olygu. Mae hefyd yn golygu gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithlon o’r asedau sydd gennym eisoes—sef y staff a’r cyfarpar sydd gennym. Felly, mae eich pwynt yn un da ac fe’i deellir yn iawn gan y gwasanaeth.