Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 17 Mai 2017.
Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol a sylweddol, fel yr amlinellais yn fy ateb cynharach. Rwy’n argyhoeddedig fod y cynnydd yn sylweddol ac yn gynaliadwy. Yn benodol, ceir sawl bwrdd iechyd—Hywel Dda, er enghraifft—heb neb yn aros dros yr amser targed perthnasol. Bydd yr her yn ymwneud â’r niferoedd sydd ar ôl, yn bennaf yn ne-ddwyrain Cymru, a sut y cânt eu datrys. Rwyf wedi bod yn glir iawn gyda’r ddau swyddog gweithredol, ond hefyd, yn benodol, gyda chadeiryddion y byrddau iechyd, fy mod yn disgwyl i bobl gyfarfod er mwyn gwneud rhagor o gynnydd eleni, oherwydd er fy mod yn dathlu’r cynnydd a wneir, ni fyddaf yn hunanfodlon tra bo cynnydd ar ôl i’w wneud a thra bo rhai pobl yn dal i aros yn rhy hir, ac rwy’n benderfynol y bydd GIG Cymru yn parhau i gyflawni ac i wella.