Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 17 Mai 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf y gostyngiad a nodwyd gennych yn yr amseroedd aros am brofion diagnostig. Mae’n bwysig iawn ein bod yn symud pobl drwodd mor gyflym â phosibl. Croesawaf hefyd y buddsoddiad yn y ganolfan yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a roddwyd ar waith i sicrhau bod diagnosteg yn gweithio gyda chlinigwyr ar y safle i wella’r gwasanaeth i bobl. A fyddwch yn creu mwy o’r canolfannau hyn ledled Cymru, ac os felly, a gaf fi gyflwyno cais ar ran Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, sydd mewn lle delfrydol ar gyfer canolfan o’r fath?