Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 17 Mai 2017.
Rwy’n cydnabod rhai o’r pwyntiau a wnaed ganddo, fel y mae’r gwasanaeth. Rydym yn buddsoddi cyfalaf sylweddol er mwyn darparu’r cyfarpar diagnostig diweddaraf. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud y defnydd gorau ohono ac yn deall yr hyn y gall fod yn ddefnyddiol ar ei gyfer. Er enghraifft, ymwelais â chyfarpar a oedd yn angenrheidiol at un diben, ond mewn gwirionedd, roedd yn gallu cyflawni profion diagnostig gwahanol. Felly, deellir hynny’n iawn o fewn y gwasanaeth, ac mae’n rhan o’r pwynt ehangach ynglŷn â’r hyn y mae diwygio’n ei olygu. Nid ad-drefnu lleoliad ffisegol gwasanaethau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yn unig y mae’n ei olygu. Mae hefyd yn golygu gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithlon o’r asedau sydd gennym eisoes—sef y staff a’r cyfarpar sydd gennym. Felly, mae eich pwynt yn un da ac fe’i deellir yn iawn gan y gwasanaeth.