Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu’r ymgyrch recriwtio nyrsys a’r newyddion fod Llywodraeth Cymru yn cadw’r bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr nyrsio am flwyddyn arall. Mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i annog pobl o bob cefndir yng Nghymru i ystyried gyrfa mewn nyrsio. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i ymestyn y bwrsariaethau nyrsys yn y dyfodol i sicrhau y gall trigolion Cymru sy’n ystyried newid gyrfa fforddio hyfforddi fel nyrsys?