Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Er y gall yr ymgyrch recriwtio nyrsio helpu i fynd i’r afael â materion staffio tymor byr, mae angen i ni feddwl am y tymor hwy a sut y gallwn ddenu mwy o bobl Cymru, yn enwedig siaradwyr Cymraeg, i’r byd nyrsio. Byddai UKIP yn hoffi gweld ailgyflwyno’r hyn sy’n cyfateb i nyrsys cofrestredig y wladwriaeth, a fyddai’n caniatáu i gynorthwywyr gofal iechyd ac eraill hyfforddi fel nyrsys heb fod angen gradd. Pa ystyriaeth y mae eich Llywodraeth wedi’i roi i ailgyflwyno rhyw fath o nyrs gofrestredig yn y GIG yng Nghymru?