<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:46, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Gwyddom fod yna nifer o bobl sy’n cael eu hanfon y tu allan i ardal. Rydym wedi gweld gwelliant sylweddol yn nifer y bobl sy’n mynd y tu allan i ardal i gael triniaeth. Bydd rhai o’r bobl hynny’n mynd y tu allan i ardal am eu bod angen cymorth arbenigol nad yw ar gael yng Nghymru—nid oes gennym y niferoedd na’r gallu i gomisiynu a darparu’r gofal hwnnw’n uniongyrchol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn parhau i fynd y tu allan i ardal yn amhriodol, ond rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar hynny yn ystod y flwyddyn hon. Felly, er enghraifft, niferoedd un digid o blant sy’n cael eu lleoli y tu allan i ardal bellach. I bob unigolyn sy’n gorfod teithio’n hir i fynd i leoliad priodol, rwy’n derbyn y byddai hynny’n broblem go iawn iddynt, eu teulu a’u hanwyliaid. Fodd bynnag, y pwynt yw bod cynnydd go iawn wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydym yn disgwyl cynnydd pellach yn y blynyddoedd i ddod.