<p>Effeithiau Llygredd Awyr ar Iechyd Cyhoeddus</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:53, 17 Mai 2017

Diolch am yr ateb, Gweinidog. Rwy’n deall bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn arwain, ond, wrth gwrs, roedd y cwestiwn yn benodol ar yr effaith ar iechyd cyhoeddus, achos mae e wedi cael ei dderbyn mai llygredd awyr, bellach, yw’r ail ffactor ymysg marwolaethau cynnar sydd gennym ni yng Nghymru, ac wedi cael ei ddisgrifio fel argyfwng iechyd cyhoeddus mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, gan bennaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly, yn benodol, beth ydych chi yn mynd i’w wneud i liniaru effaith llygredd awyr ar iechyd, ac, yn benodol, a ydych chi yn mynd i ymrwymo heddiw i’r Siambr y bydd gan y Llywodraeth, yn y cynlluniau awyr glân y soniwyd amdanyn nhw ddoe gan y Prif Weinidog, y targed i ostwng llygredd awyr yng Nghymru, a thargedau pendant y tu mewn i’r cynlluniau i ddangos ein bod ni ar y trywydd cywir i ostwng llygredd awyr yng Nghymru?