<p>Effeithiau Llygredd Awyr ar Iechyd Cyhoeddus</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:56, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n sylweddoli mai cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd ydyw yn bennaf, ond rwy’n gobeithio y cawn weld ymagwedd system gyfan gan y Llywodraeth gyfan. Rwy’n siŵr y byddai gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg hefyd rywfaint o gyfrifoldeb dros sicrhau nad yw ein plant yn yr ysgol yn agored i lefelau diangen o nitrogen deuocsid. Felly, beth fyddai’r cyngor i ysgolion gan arbenigwyr iechyd y cyhoedd ynglŷn ag a yw’n ddiogel i blant fod yn chwarae yn yr awyr agored ar ddiwrnodau penodol?