Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 17 Mai 2017.
Mae’r ffaith fod bylchau parhaus yn y driniaeth ar gyfer diagnosis deuol i bobl â phroblemau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau yng ngogledd Cymru yn golygu bod y drws tro yn dal i fod yn fyw ac yn iach yn anffodus. Mae degawd wedi bod ers i adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau dadwenwyno ac adsefydlu cleifion preswyl haen 4 gael ei ryddhau i mi ar ôl cael ei gladdu, adroddiad a nodai fod pobl yn aildroseddu’n fwriadol oherwydd y bylchau hyn a’r derbyniadau i’r ysbyty oherwydd absenoldeb y driniaeth hon. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru fodel arfaethedig gan weithio gyda thri darparwr trydydd sector yng ngogledd, canolbarth a de Cymru. Ddegawd yn ddiweddarach, lle rydym ni arni o ran hynny, fel bod y bobl sydd angen triniaeth ar gyfer diagnosis deuol yn ddybryd yn gallu ei chael yn y rhanbarth lle maent yn byw?