<p>Gwasanaethau a Chymorth Iechyd Meddwl </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:01, 17 Mai 2017

Rŷch chi’n berffaith iawn i ddweud, wrth gwrs, na ddylem ni dwyllo’n hunain i feddwl bod y sefyllfa wedi’i datrys, oherwydd mi ges i gyfarfod reit frawychus, a dweud y gwir, gyda gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal yng ngogledd Cymru rhyw wythnos neu ddwy yn ôl, ac roedden nhw’n sôn mai, wrth gwrs, diffyg capasiti, diffyg gwlâu a diffyg staffio yw un o’r problemau canolog sydd yn creu cylch dieflig lle mae yna bobl yn cael eu rhyddhau o unedau yn rhy gynnar oherwydd nad yw’r capasiti yna i dderbyn pobl newydd i mewn i gyfundrefn gymunedol sydd heb y capasiti i ddelio â’r niferoedd sydd, ar y pen arall wedyn, yn mynd i wthio mwy o bobl i mewn i’r unedau er mwyn gallu delio â’r baich gwaith. Yr hyn a ddywedon nhw wrthyf i oedd bod y sefyllfa nawr yn waeth nag y mae hi wedi bod erioed o’r blaen.

Nawr, rwy’n derbyn yr hyn rŷch chi’n ei ddweud ynglŷn â strategaeth tymor hir ac edrych ymlaen, yn ei lle, ond y realiti yw, wrth gwrs, fod yna ddwy flynedd nawr ers i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr fod mewn mesurau arbennig, ac, fel y dywedoch chi, un o’r rhesymau am hynny oedd y diffygion yn y gwasanaethau iechyd meddwl. Felly, rwy’n siŵr y gwnewch chi gydnabod nad yw’r sefyllfa bresennol yn dderbyniol, ond yr hyn mae pobl eisiau ei wybod yw: beth yw’r cynllun i ddelio â’r trafferthion hyn nawr, heddiw, tra, wrth gwrs, yn symud ymlaen wedyn i gynlluniau mwy tymor hir yn y pen draw?