Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 17 Mai 2017.
Rwy’n falch iawn o glywed am y £500,000 sy’n cael ei roi tuag at drefniadau pontio ar gyfer unigolion ag anhwylderau bwyta rhwng CAMHS a gwasanaethau oedolion, drwy drafodaethau Plaid Cymru a’r Blaid Lafur ar gytundeb y gyllideb. Rwyf wedi clywed gan bobl a ddaeth i’r grŵp trawsbleidiol diwethaf a oedd yn dweud mai dyna ble roeddent eisiau i’r arian fynd, am eu bod yn cydnabod y newid yn strwythur y driniaeth o ddarpariaeth fwy teuluol ei natur i’r ddarpariaeth ar gyfer oedolion. Felly, roeddwn eisiau gwybod a fyddai’r cyllid hwnnw’n rheolaidd, yn barhaus, ac a ydych yn trafod gydag arbenigwyr ym maes anhwylderau bwyta ynglŷn â hyfforddi’r lefelau presennol o staff ar gyfer y ddarpariaeth newydd honno. Hefyd, o ran recriwtio staff newydd a fyddai’n gallu dod i mewn i’r maes anhwylderau bwyta mewn perthynas â’r cyllid newydd hwn, rwy’n credu y bydd yn gwneud llawer i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn llawer mwy effeithiol yn y dyfodol.