Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 17 Mai 2017.
Gall digwyddiadau chwaraeon mawr fod yn gam ar ein taith tuag at fod yn genedl iach a gweithgar. Mae rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf a mwyaf mawreddog ledled y byd. Mae Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddefnyddio’r digwyddiad i ysbrydoli rhagor o bobl i chwarae pêl-droed a chymryd rhan mewn chwaraeon, a chefnogi cymunedau egnïol drwy hynny.