Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch am eich ateb, Gweinidog; mae hynny’n galonogol. Cyfeiriasom at hyn yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe—mae yna fater ehangach yn ymwneud â’r cysylltiad rhwng clybiau chwaraeon proffesiynol, megis ein clybiau pêl-droed proffesiynol, a’u gweithgareddau i hyrwyddo chwaraeon llawr gwlad, er mwyn gwella targedau iechyd a phethau felly. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa ystyriaethau a roddoch i’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwnnw.