Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch. Ers y bore yma, mae 1,198 o hawliadau arwynebedd Glastir i’w prosesu o hyd. Yn 2016, cafodd hawliadau cynllun y taliad sylfaenol eu blaenoriaethu, oherwydd gwerth a nifer sylweddol y busnesau fferm a oedd yn derbyn y taliadau hynny. Erbyn heddiw, mae dros 99.2 y cant o fusnesau fferm wedi cael eu talu, cyfanswm o £220.60 miliwn o gynllun y taliad sylfaenol. Ers mis Ionawr, mae ffocws Taliadau Gwledig Cymru wedi newid i brosesu hawliadau Glastir. Mae Taliadau Gwledig Cymru yn parhau i weithio’n galed, a bydd ein holl achosion profiant ac achosion cyfreithiol cymhleth eraill yn cael eu talu erbyn diwedd y mis nesaf.