3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 17 Mai 2017.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y 1,761 o geisiadau Glastir sydd heb eu talu o hyd? TAQ(5)0142(ERA)[W]
Diolch. Ers y bore yma, mae 1,198 o hawliadau arwynebedd Glastir i’w prosesu o hyd. Yn 2016, cafodd hawliadau cynllun y taliad sylfaenol eu blaenoriaethu, oherwydd gwerth a nifer sylweddol y busnesau fferm a oedd yn derbyn y taliadau hynny. Erbyn heddiw, mae dros 99.2 y cant o fusnesau fferm wedi cael eu talu, cyfanswm o £220.60 miliwn o gynllun y taliad sylfaenol. Ers mis Ionawr, mae ffocws Taliadau Gwledig Cymru wedi newid i brosesu hawliadau Glastir. Mae Taliadau Gwledig Cymru yn parhau i weithio’n galed, a bydd ein holl achosion profiant ac achosion cyfreithiol cymhleth eraill yn cael eu talu erbyn diwedd y mis nesaf.
A gaf fi groesawu Ysgrifennydd y Cabinet yn ôl i’w lle, a gobeithio ei bod yn gwella’n dda? A gaf fi ddweud wrthi fy mod yn ddiolchgar am y ffigurau diweddaraf—roedd y ffigurau a oedd gennyf yn fy nghwestiwn gwreiddiol yn dyddio o oddeutu tair wythnos yn ôl, felly mae’n amlwg fod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud? Fodd bynnag, pan edrychais ar broffil y ffigurau hyn, a Gwynedd yn enwedig—mae Meirion Dwyfor wedi bod yn un ardal lle mae ffermwyr wedi cwyno’n benodol ac mae wedi cael proffil gwael iawn o fewn hynny, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig cofnodi wrth gwrs fod y rhain, er ein bod yn eu galw’n daliadau Glastir—ym mhob achos bron, ad-daliadau ydynt am arian y mae’r ffermwyr wedi’i wario’n barod ar waith a wnaed eisoes ac sy’n aml wedi cael ei arolygu ar ffermydd.
Felly, a allwch gadarnhau’r hyn rydych eisoes wedi’i ddweud wrthym—neu yn hytrach, nid chi, rhywun a oedd yn cymryd eich lle ar y pryd—yr hyn a ddywedodd y Llywodraeth wrthym ar 11 Ebrill, sef eich bod yn disgwyl y bydd y taliadau hyn i gyd, ac eithrio rhai anodd iawn, yn cael eu talu erbyn diwedd y mis hwn? Nodaf nad yw hynny’n edrych yn hollol debygol hyd yn hyn. Ac a allwch chi hefyd ddweud pa un a ydych yn ystyried unrhyw gamau pellach y gallwch eu cymryd fel Llywodraeth i helpu ffermwyr sy’n wynebu amser anodd iawn, amser ansicr hefyd, gyda Brexit? Er enghraifft, rwy’n deall bod Llywodraeth yr Alban wedi caniatáu i fenthyciadau gael eu gwneud, a bod manylion terfynol y taliadau’n cael eu gwneud wedyn yn nes ymlaen. A gaiff y rhain eu hystyried yn weithredol hefyd fel ffordd o helpu ffermwyr sydd o ddifrif angen i’r ad-daliadau Glastir hyn gael eu gwneud yn awr?
Diolch. Rydych yn hollol gywir—ers i gwestiwn ysgrifenedig, rwy’n credu, gael ei roi i Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae 563 o hawliadau pellach wedi’u talu, ac rwyf wedi egluro’r sefyllfa bresennol i chi heddiw. Rhoesom wybod i ffermwyr y byddai hyn yn digwydd, oherwydd y ffordd roeddem yn gwneud cynllun y taliad sylfaenol ar ôl y newidiadau y llynedd, felly nid wyf yn derbyn bod y taliadau Glastir yn hwyr, oherwydd ni ddywedwyd pryd y byddent yn cael eu talu mewn gwirionedd. Fodd bynnag, rwy’n deall yr anawsterau. Dywedasom, mewn gwirionedd, y byddem yn dechrau talu taliadau Glastir ym mis Chwefror—dechreusom ym mis Ionawr mewn gwirionedd, felly roeddem ychydig yn gynharach, ac fel y dywedais heddiw, byddant i gyd wedi’u talu erbyn diwedd mis Mehefin.
Fe ofynoch ynglŷn â benthyciadau, ac rwy’n ymwybodol fod Llywodraeth yr Alban yn gwneud hynny. Byddai unrhyw gynllun benthyg yn debygol o dorri rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE, ac rwy’n credu y byddai hynny wedyn yn cynyddu’r perygl ohonom yn cael ein cosbi’n ariannol. Rwyf hefyd yn credu y byddai’n cymryd amser i’w sefydlu, ac a dweud y gwir byddai’n well gennyf gael staff Taliadau Gwledig Cymru allan yno’n prosesu’r ceisiadau hynny cyn gynted ag y bo modd.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n hollol hanfodol fod pob un o’r 1,198 o geisiadau Glastir sy’n ddyledus yn cael eu talu cyn gynted â phosibl er mwyn diogelu hyfywedd y busnesau fferm hynny, ac mae’n gwbl annerbyniol fod 18 mis wedi bod ers i rai ffermwyr dderbyn taliad Glastir, ac rwy’n credu bod hyn yn dystiolaeth bellach fod anawsterau yn bla yn y cynllun Glastir o hyd a bod llawer gormod o fiwrocratiaeth yn y system. Felly, o dan yr amgylchiadau, a wnewch chi amlinellu pa gymorth ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer ffermwyr yr effeithiwyd arnynt gan yr oedi cyn gwneud taliadau er mwyn diogelu eu busnesau yn y cyfamser? Mae yna bryder gwirioneddol hefyd fod y system ar ei ffurf bresennol yn annigonol. Fel y byddwch yn gwybod o fy ngohebiaeth gyda chi ar y mater hwn, yn fy marn i dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei gwneud yn haws i fwy o ymgeiswyr gyflawni arferion amgylcheddol, yn hytrach na rhoi rhwystrau yn eu ffordd. O ystyried y pryderon presennol gyda’r system, a ydych yn cytuno felly ei bod yn awr yn bryd adolygu’r modd y caiff holl weithrediad Glastir ei reoli er mwyn sicrhau bod y cynllun yn fwy cydlynol ac yn annog tirfeddianwyr i gyflawni arferion rheoli mwy cyfeillgar i’r amgylchedd mewn gwirionedd yn hytrach na’u rhwystro?
Rwy’n credu bod Glastir wedi bod yn hynod o lwyddiannus mewn gwirionedd. Yn wir, eleni, gwelsom gynnydd yn nifer y contractau a hawliadau Glastir i’w prosesu. Rwy’n credu ein bod wedi cael 543 o geisiadau Glastir llwyddiannus ychwanegol. Felly, rwy’n credu ei fod wedi bod yn gynllun hynod o lwyddianus. Byddwch hefyd yn deall bod symleiddio polisi amaethyddol cyffredin yr UE yn golygu ein bod wedi gorfod cyflwyno gwiriadau ychwanegol ar gyfer Glastir—roedd angen i ni gyflwyno’r rheini’n unol â chynllun y taliad sylfaenol. Rydym hefyd wedi cael cymhlethdodau gyda mapio archwiliadau system integredig gweinyddu a rheoli 2016, a bydd hynny, unwaith eto, wedi effeithio ar Glastir.
Rwyf bob amser yn awyddus iawn i edrych ar sut y gallwn symleiddio unrhyw broses. Fe fyddwch yn gwybod am y cynllun grantiau busnes i ffermydd newydd a gyflwynwyd gennym, ac rwyf wedi bod yn awyddus iawn i sicrhau bod hwnnw mor syml ag y bo modd. Ond rwy’n sicrhau pawb y bydd yr holl daliadau wedi’u gwneud erbyn diwedd mis Mehefin.
Rwyf innau hefyd yn croesawu Ysgrifennydd y Cabinet yn ôl i’w lle yn y Cynulliad hwn ac yn gobeithio y bydd ei hiechyd yn parhau i wella.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n sicr, yn rhannu fy siom fod rhai ffermwyr, fel y mae Paul Davies newydd ei nodi, wedi bod yn aros am 18 mis am eu taliadau, o gofio, erbyn yr adeg hon o’r flwyddyn, fod llawer o ffermwyr yn cael anawsterau llif arian ar ddiwedd y gaeaf, a bod yn rhaid i ni geisio sicrhau bod yr hyn a ddisgrifir fel taliadau blynyddol yn golygu yn union hynny ac nid taliadau a wneir bob 18 mis yn y dyfodol. Rwy’n sylweddoli nad oes unrhyw gynllun gweinyddol yn mynd i fod yn berffaith ac yn anffaeledig ond dylem yn sicr wneud ein gorau i sicrhau bod yr hyn a ddisgrifir fel taliad blynyddol yn golygu yn union hynny. Pan fydd ffermwyr yn ffonio’r ganolfan gyswllt cwsmeriaid, ni roddir unrhyw syniad iddynt pa bryd y gallai eu taliadau fod yn cael eu gwneud. Rwy’n meddwl tybed a oes yna rai gwelliannau y gellid eu gwneud o ran y wybodaeth y gellir ei rhoi iddynt, hyd yn oed gwybodaeth fras, oherwydd mae’n amser pryderus i lawer o ffermwyr—sut y maent yn talu eu biliau ac maent yn dechrau ar eu cynlluniau busnes ar gyfer gweddill y flwyddyn.
Y trydydd pwynt yr hoffwn ei wneud—heb gysylltiad â’r pwynt blaenorol—yw bod rhai ffermwyr wedi cael llythyrau mewn camgymeriad gan Taliadau Gwledig Cymru yn ddiweddar mewn perthynas â methiant i gyflawni gwaith cyfalaf Glastir er bod y gwaith wedi’i gwblhau mewn gwirionedd. A allwch gadarnhau y bydd Taliadau Gwledig Cymru yn cysylltu â hwy’n uniongyrchol cyn gynted â phosibl er mwyn cadarnhau mai camgymeriad oedd anfon y llythyr?
Diolch. Gallaf, cyn belled ag y gwn, maent eisoes wedi cysylltu â’r holl bobl, a hynny fis neu ddau yn ôl mae’n debyg, i ddweud mai camgymeriad oedd anfon y llythyrau.
Mewn perthynas â chael gwybodaeth ynglŷn â phryd y byddant yn cael eu talu, rwy’n credu bod hwnnw’n bwynt teg iawn. Yn sicr, cefais gyfarfod heddiw gyda staff Taliadau Gwledig Cymru i ddweud y gallant o leiaf gael gwybod erbyn diwedd mis Mehefin, er enghraifft, ac nid wyf yn credu eu bod wedi cael gwybod. Ond rwyf wedi cael sicrwydd gan fy swyddogion y bydd hynny’n digwydd, ac rwy’n gobeithio y bydd pob ffermwr sy’n dal i aros yn clywed hyn neu y byddant wedi cael gwybod gan staff Taliadau Gwledig Cymru y byddant yn cael eu taliad erbyn diwedd mis Mehefin.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.