Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn i allu cyfrannu i’r ddadl yma’r prynhawn yma. Fel rhywun sy’n dad i blant sy’n dod i oed lle mae ganddyn nhw nawr bresenoldeb ar-lein ac ar wefannau cymdeithasol, rwy’n gallu uniaethu gyda rhai o’r sylwadau agoriadol a wnaethpwyd i’r ddadl yma. Wrth gwrs, rwyf i o genhedlaeth nad oedd wedi tyfu i fyny â gwefannau cymdeithasol yn bodoli. Mae’n anodd i rywun fel fi uniaethu, rwy’n meddwl, gyda fy mhlant i, sydd nid yn unig yn cael y profiad o ddarganfod, dysgu am, a deall y cyfryngau cymdeithasol yma, ond hefyd yn gorfod gwneud hynny ar yr un pryd â wynebu holl bwysau a heriau tyfu i fyny. Felly, wrth gwrs, nid oes rhyfedd bod hynny’n arwain at ryw gymysgwch o brofiadau emosiynol, sydd yn arwain at ganlyniadau, yn aml iawn, llai na hapus.
Rydym yn gwybod, yn ôl y gwaith mae’r NSPCC wedi amlygu, fod rhyw 20 y cant o blant rhwng wyth ac 11 oed â phroffil ar gyfryngau cymdeithasol. Mae hynny’n codi i ryw 70 y cant i bobl ifanc 12 i 15 oed. Mae chwarter o blant wedi cael profiad sydd wedi peri gofid iddyn nhw ar safle rhyngweithio cymdeithasol a thraean wedi dioddef bwlio ar-lein. Felly, dyna flas, mewn gwirionedd, o ba mor ddifrifol yw’r sefyllfa, a hynny, wrth gwrs, sy’n cael ei adlewyrchu yn y ffigurau mae Childline yn eu rhyddhau yn gyson, sydd yn dangos y galw cynyddol sydd yna am eu gwasanaethau nhw.
O dan y cwricwlwm cenedlaethol newydd—ac rydym wedi clywed cyfeiriad at hynny yn barod—mi fydd cymhwysedd digidol yn un o’r tri chyfrifoldeb traws-gwricwlwm. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl addas ac yn gwbl angenrheidiol. Mae’n rhywbeth y byddem ni i gyd yn ei groesawu. Mae’n hanfodol bod y fframwaith hwnnw yn grymuso plant a phobl ifanc i allu gwneud defnydd diogel o’r rhyngrwyd fel rhan sylfaenol o’u haddysg nhw. Dim ond heddiw roeddwn yn darllen adroddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd a oedd yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn y pedwerydd safle allan o 42 o wledydd o gwmpas y byd am y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a chyfrifiadurol. Mae dros dri chwarter o ferched rhwng 11 a 15 oed, a bron 85 y cant o fechgyn, yn defnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn am ddwy awr neu fwy ar nosweithiau ysgol ar gyfer rhesymau heblaw chwarae gemau.
Nawr, nid oes angen arbenigwr i ddweud wrthym ni—er eu bod nhw wrth gwrs yn ategu’r neges—fod hynny’n cyflwyno perygl iechyd difrifol, o safbwynt iechyd meddwl a’n sicr oherwydd y peryglon seiber fwlio, ond hefyd y peryglon iechyd corfforol a’r risg cynyddol o ordewdra a chlefyd y siwgr math 2 yn y tymor hir, ac yn y blaen. Ac mi wnaeth arolwg o Chwefror y llynedd ar gyfer Safer Internet Day amlygu bod chwarter o bobl ifanc yn eu harddegau wedi dioddef casineb ar-lein yn y flwyddyn flaenorol. Nawr, ar gyfryngau cymdeithasol roedd pobl ifanc fwyaf tebygol o ddod ar draws y fath gamdriniaeth, ac mewn rhai achosion, mi fyddai’r achosion hynny’n cael eu cyfri fel trosedd casineb, sydd eto yn tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa.
Dros yr wythnos diwethaf, fel y clywsom ni gynnau, mae seiberdroseddu wedi bod ar frig y newyddion gyda’r ymosodiad seiber ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr ac yn yr Alban, wrth gwrs, sydd wedi cael cryn effaith ar wasanaethau yn fanna. Ond mae’n rhaid, wrth gwrs, inni gymryd yr un mor o ddifri troseddu yn erbyn unigolion ar-lein, er bod hynny’n fwy cudd yn aml iawn nag ymosodiad fel y gwelsom ni ar y gwasanaeth iechyd yn ddiweddar.
Dim ond y flwyddyn ddiwethaf dechreuodd yr ONS gyhoeddi ffigurau arbrofol ar seiberdroseddu, ac roedd y ffigurau yn llawer iawn uwch nag yr oedd unrhyw un wedi ei ddisgwyl, gyda 5.8 miliwn o droseddau yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn hyd at Orffennaf y llynedd. Mae hynny yn ddigon i bron iawn ddyblu’r gyfradd o droseddu yma yng Nghymru ac yn Lloegr. Mi gynyddodd troseddau ‘harass-o’, gan gynnwys troseddau newydd fel cyfathrebu maleisus ar-lein, camddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen, 90 y cant. Mi gynyddodd o 82,000 o achosion i 156,000. Felly, mae ‘scale’ y broblem nawr yn dod yn fwyfwy amlwg, ac felly mae ‘scale’ yr ymateb sydd ei angen yn wyneb hynny angen ei gynyddu hefyd.
Roedd merched yn derbyn bron i ddwywaith yn fwy o fygythiadau i’w lladd neu i ymosod arnyn nhw’n rhywiol na dynion. Yn ôl un astudiaeth—66 o achosion yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ond dim ond 10 y cant o’r merched a oedd wedi dioddef o gam-drin neu ‘harass-o’ ar-lein wnaeth adrodd hynny i’r heddlu. Felly, mae yna her ddifrifol yn ein hwynebu ni yn fanna hefyd.
Mae’r ffaith bod cymaint o gamdriniaeth yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn mynnu bod pobl ifanc yn cael yr addysg angenrheidiol er mwyn eu pweru nhw i warchod eu hunain a’u buddiannau, a hefyd yn tanlinellu, fel y mae gwelliannau Plaid Cymru yn eu hamlinellu, yr angen i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol weithio gyda chwmnïau perthnasol ac eraill i fynd i’r afael â hyn, ac, wrth gwrs, gorau po gynted.