Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 17 Mai 2017.
Rydw i’n falch o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae diogelu plant a phobl ifanc ar-lein yn parhau i fod yn her wirioneddol i gymdeithas heddiw, ac mae gyda ni gyd ddyletswydd i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn yn well rhag y peryglon o ddefnyddio’r rhyngrwyd. Fel dywedodd Darren Millar, mae’r rhyngrwyd yn offeryn anhygoel i addysgu ein plant i ehangu eu gorwelion dysgu a rhoi mynediad iddynt at adnoddau y gallai cenedlaethau blaenorol ond breuddwydio amdanynt. Wrth gwrs, nid yn unig mae’n arf gwych academaidd a all gefnogi dysgu ein plant, mae’r rhyngrwyd yn cynnig mynediad i’r adloniant diweddaraf drwy wasgu rhai botymau, ac mae’n annog plant i ddatblygu perthynas â’i gilydd drwy gyfryngau cymdeithasol. Ac er bod pob un o’r offerynnau hyn yn helpu i feithrin ac addysgu ein plant a’n pobl ifanc, mae’r rhyngrwyd hefyd yn gallu bod yn lle peryglus iawn.
Mae’r rhyngrwyd wedi dangos ei fod yn gallu helpu cryfhau perthnasoedd; gall hefyd roi plant mewn perygl o seiber fwlio, ecsbloetio a cham-drin, hyd yn oed, yn emosiynol a rhywiol. Nid oes angen i chi edrych yn rhy bell i ddod o hyd i straeon torcalonnus o blant ar draws y byd sydd wedi cymryd eu bywydau oherwydd y bygythiadau a’r bwlio maen nhw wedi’i ddioddef ar-lein. Dim ond yn ddiweddar, yn fy etholaeth i, fe fu farw merch 14 mlwydd oed yn ei chartref ar ôl brwydr gudd yn erbyn ‘cyber bullies’, mater roedd hi wedi cadw oddi wrth ei theulu. Yn anffodus, mae’r ferch ifanc yma yn un o llu o bobl eraill sydd, yn amlach na pheidio, yn dioddef yn dawel dan law bwlis sydd wedi defnyddio’r rhyngrwyd fel llwyfan i ledaenu casineb ac i gam-drin. Mae arnom ni ddyled enfawr i’r dioddefwyr hyn ac i’w teuluoedd, felly maen rhaid i ni wneud mwy i wneud y rhyngrwyd yn fwy diogel ar gyfer ein plant. Rydw i’n credu bod hyn yn dechrau drwy greu deialog llawer mwy agored ar draws ein cymdeithas am sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn fwy diogel ac yn fwy cyfrifol. Mae gyda ni ddyletswydd i sicrhau bod y deialog hwn yn digwydd mewn ystafelloedd dosbarth, cartrefi ac mewn cymunedau ledled Cymru. Rydw i’n annog yr Ysgrifennydd Cabinet—ac fe wnawn ni bopeth ar yr ochr hyn i’w chefnogi hi—i ystyried sefydlu ymgyrch gyhoeddus eang yng Nghymru, sy’n annog pobl i drafod y manteision a pheryglon o ddefnyddio’r rhyngrwyd.
Mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr awenau drwy weithredu galwad yr NSPCC am gynllun gweithredu diogelwch ar-lein cynhwysfawr, sydd yn cael ei gefnogi gan grŵp cynghori digidol, i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran cadw plant yn ddiogel ar-lein. Byddai trafodaeth gyhoeddus ehangach am ddiogelwch ar-lein, ynghyd â chynllun gweithredu diogelwch ar-lein dan arweiniad y Llywodraeth, gobeithio yn anfon neges gref bod diogelwch plant ar-lein yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a bod hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried o ddifri.
Wrth gwrs, mae gan ysgolion ran bwysig iawn i’w chwarae o ran amddiffyn plant a phobl ifanc, ac mae’n bwysig bod athrawon a chynorthwywyr addysgu’n cael hyfforddiant lawn a chyfredol ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein, fel y gallant adnabod yn well y rhai sydd mewn perygl o gael eu cam-drin ar-lein.
Felly, wrth ymateb i’r ddadl heddiw, efallai y gallai’r Ysgrifennydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y lefel ac amlder yr hyfforddiant mae athrawon yn ei dderbyn mewn perthynas â dysgu plant a phobl ifanc am ddiogelwch ar-lein. Yn naturiol, dylai ysgolion ledled Cymru edrych i fabwysiadu polisïau ar gyfer atal a mynd i’r afael â seiber fwlio a hyrwyddo diogelwch ar-lein sy’n addas i’w cymunedau a’u diwylliant lleol. Rydw i’n derbyn bod rhywfaint o waith da iawn yn cael ei wneud ar draws Cymru. Fel dywedodd Darren Millar, mae Grid y De Orllewin ar gyfer Dysgu wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ers 2014 i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ar-lein ymhlith ysgolion Cymru, ac rwy’n nodi eu bod wedi lansio offeryn hunan-adolygu i helpu ysgolion yng Nghymru asesu a gwella eu polisïau a’u harferion diogelwch. Ond ar ôl dweud hynny, fel sydd wedi cael ei ddweud eisoes, dim ond 78 y cant o ysgolion yng Nghymru sydd wedi cofrestru ac sydd yn defnyddio’r offeryn penodol hwn, sy’n golygu bod 22 y cant o ysgolion yn gwerthuso eu mesurau yn wahanol.
Nawr, tra bod rhaid i ysgolion fod yn rhagweithiol wrth lunio polisïau sy’n adlewyrchu orau eu hanghenion a’u heriau eu hunain, yn sicr mae peth sgôp ar gyfer safonau sylfaenol ac fel y dylai ysgolion fod yn mesur eu heffeithiolrwydd wrth fynd i’r afael â diogelwch ar-lein. Mae Grid y De Orllewin ar gyfer Dysgu wedi galw ar Estyn i sefydlu safonau a disgwyliadau clir a chyson ar gyfer diogelwch ar-lein, ac i gefnogi ac arwain ysgolion ac asiantaethau eraill wrth gyrraedd y safonau hynny. Felly, efallai wrth ymateb i’r ddadl hon, gall Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch pa mor bell mae Estyn wedi mynd i ddatblygu’r safonau hynny.
Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae’r rhyngrwyd yn newid y ffordd yr ydym ni’n cyfathrebu, ac er fy mod i’n derbyn y gall y rhyngrwyd fod yn adnodd addysgol, cymdeithasol a diwylliannol gwych, gall hefyd fod yn lle peryglus iawn i bobl sy’n agored i niwed, yn enwedig plant a phobl ifanc. Mae’n hanfodol ein bod ni’n siarad yn agored am fanteision a risgiau defnyddio’r rhyngrwyd, ac annog plant i fod yn ddinasyddion digidol cadarnhaol, sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn hyderus ac yn ddiogel. Felly, rydw i’n annog Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch.