Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf gynnig y cynnig yn enw Rhun ap Iorwerth.
Mae cyn-feysydd glo de Cymru, y Cymoedd, wedi bod mewn cyflwr o argyfwng economaidd ers o leiaf streic gyffredinol 1926 mae’n debyg. Ac ers hynny, cafwyd nifer o fentrau dros y degawdau, yn aml mewn ymateb i aflonyddwch cymdeithasol, a phob un yn methu cyflawni’r nod o ffyniant teg i gymunedau’r Cymoedd, yn seiliedig ar arallgyfeirio o’r hen ddiwydiannau i rai newydd. Yn wir, gallwn fynd yn ôl at Ddeddf Ardaloedd Arbennig 1934 pan gafodd ardal de Cymru yn ei chyfanrwydd ei dynodi’n ardal economaidd arbennig, hyd at oes y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd sydd ar fin dod i ben.
Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn nodi’n gyntaf beth yw cyflwr economaidd presennol ardal y Cymoedd, ac yn argymell camau i ailddiwydiannu, adfywio ac adfer cymunedau’r rhanbarth. Ym mhwynt (c) ein cynnig, rydym yn tynnu sylw at bwysigrwydd blaenoriaethu buddsoddiad. Mae hon yn thema bwysig iawn, gan y gallwn weld ar lefel gwladwriaethau ac is-wladwriaethau o gwmpas y byd effaith economi ddaearyddol anghytbwys yn llifo ac yn deillio o fuddsoddiad anghyfartal. Rydym yn ei weld yma yn y DU mewn perthynas â Llundain a de-ddwyrain Lloegr o gymharu â phob ardal arall, a hyd yn oed mewn gwledydd llai hefyd fel ein cymdogion yn Iwerddon sy’n ymyrryd yn gyllidol ac yn economaidd yn awr i ledaenu cyfle a buddsoddiad y tu allan i’r brifddinas-ranbarth yn Nulyn ac o amgylch y ddinas.
Yn fy marn i rydym angen Bil tegwch economaidd ac ariannol newydd yn y maes hwn, a dylid cyflwyno Biliau o’r fath ar lefel genedlaethol a lefel y wladwriaeth, ac y gallai hwnnw roi cyfle inni yn awr i weithredu polisi cymorth rhanbarthol pwrpasol newydd ar gyfer Cymru yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae pwynt (b) ein cynnig yn galw am benderfyniad cadarnhaol ar ran y Llywodraeth ar brosiect Cylchffordd Cymru, yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy arferol, wrth gwrs. Mae hwn yn benderfyniad y dywedwyd wrthym y byddai’n cael ei wneud mewn pedair i chwe wythnos yn ôl ym mis Chwefror eleni ac mae fy ffrind, yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi mynegi yn gynharach yn y trafodion heddiw y gyfres drist o ddigwyddiadau a oedd ynghlwm wrth y mater hwnnw. Hoffwn ychwanegu at hynny fel rhywun, fel eraill yn y Siambr, sydd wedi treulio fy oes gyfan bron yng nghymunedau’r Cymoedd, ei bod yn siomedig ac yn drist ein bod yn dal i weld y broses o godi disgwyliadau lleol, dim ond i’w gadael heb eu cyflawni, ac mai dyma’r rheswm i raddau helaeth pam y mae cymaint o bobl, yn enwedig yn y Cymoedd, er nad yn y Cymoedd yn unig, mor sinigaidd am wleidyddiaeth a gwleidyddion a heb fawr o obaith ar gyfer y dyfodol, a pham eu bod yn teimlo’n ddi-rym ac wedi’u hymddieithrio. [Torri ar draws.]