Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 17 Mai 2017.
Mae cymunedau yng Nghastell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful a Rhymni, yn Ogwr, yn Rhondda Cynon Taf, ym Mlaenau Gwent, yng Nghaerffili, ac yn Nhorfaen yn gwybod un ffaith: pe bai Plaid Cymru yn cael ei ffordd byddai’r arian sydd ar gael i’r awdurdodau lleol hynny’n llai, nid yn fwy—arian yn cael ei gymryd oddi wrth gynghorau’r Cymoedd i rannau eraill o Gymru. Felly, pan fyddant yn dod i’r Siambr ac yn curo eu bronnau a phwyntio’u bysedd, mae’r cyfan yn swnio braidd yn wag.