8. 8. Dadl Plaid Cymru: Datblygu Economaidd yng Nghymoedd De Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:42, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Ar ddiwedd y llynedd, cynhaliais gynhadledd yng Nghastell-nedd i edrych ar yr economi leol, ac rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am dasglu’r Cymoedd ac am sgiliau am wneud amser gyda’u swyddogion i drafod canfyddiadau’r digwyddiad hwnnw a’r adroddiad a ddeilliodd ohono. Fel y byddant yn gwybod, mae pobl yng nghymunedau’r Cymoedd yn fy etholaeth yn chwilio yn awr am ymagwedd newydd. Yr hyn y mae pobl o bob oedran ei eisiau yn ein Cymoedd yw gwaith, ac er fy mod o ddifrif yn canmol Llywodraeth Cymru ar ein ffigurau diweithdra isel yng Nghymru, mae pawb ohonom yn gwybod ei bod yn anodd dod o hyd i swyddi mewn rhannau o’n Cymoedd, yn enwedig os ydych heb weithio ers blynyddoedd neu efallai nad ydych erioed wedi gweithio. Felly, pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi ei strategaeth economaidd newydd, fel y mae’n gwybod, bydd fy etholwyr yn chwilio am atebion penodol ar gyfer ein cymunedau, ac nid ateb un maint sy’n addas i bawb, ond mesurau sy’n mynd i’r afael â heriau penodol ein Cymoedd.

Byddem wrth ein bodd yn gweld cyflogwyr mawr yn dychwelyd i bennau ein Cymoedd, ond rydym hefyd yn gwybod ein bod wedi ceisio gwneud hynny, ac rydym wedi cael trafferth i gyflawni hynny. Mae’r heriau’n enfawr, ond gwyddom y gellid gwneud llawer mwy i ddefnyddio grym caffael y sector cyhoeddus er mwyn ceisio darparu gwell swyddi yn nes at adref. Felly, rwy’n croesawu rhaglen beilot y Llywodraeth i weld sut y gall ddefnyddio ei phŵer prynu’n ddeallus i greu a meithrin cyflenwyr a chyflogwyr mewn mannau lle mae swyddi’n brin, ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i fod mor uchelgeisiol ac mor feiddgar ag y gall fod. Ond hefyd rydym angen i’n busnesau preifat mawr weld eu hunain fel stiwardiaid ein heconomïau lleol a mynd ati’n rhagweithiol i helpu i gynorthwyo cyflogwyr lleol eraill i dyfu a chyflogi pobl leol.

Gadewch i ni hefyd ei gwneud yn haws i bobl ddechrau busnes bach yn y Cymoedd. Gadewch inni ddatblygu’r lleoedd byw/gweithio hynny, neu ganolfannau busnes a rennir, wedi’u cysylltu â band eang da a’u pweru ag ynni gwyrdd cost isel. Mae ynni’n ddiwydiant sy’n rhan o dreftadaeth ein Cymoedd a gall fod yn rhan o’u dyfodol hefyd, nid yn unig fel rhai sy’n derbyn manteision cymunedol, ond fel crëwr swydd ac fel ased cymunedol. Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog yn deall potensial hyn, ac rwy’n gobeithio y gall y tasglu gyflwyno cynlluniau cadarn i ddarparu’r math hwnnw o gyfle.