Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, a hefyd am roi cyfle i mi ymateb. Hoffwn ailadrodd penderfyniad absoliwt Llywodraeth Cymru i ledaenu ffyniant i bob rhan o Gymru, gan gynnwys Cymoedd de Cymru. Ein dyhead yw creu ffyniant i bawb.
Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, rydym ar hyn o bryd yn gwneud gwaith i adnewyddu ein strategaeth economaidd er mwyn datblygu economi pob rhanbarth o Gymru’n llawnach, ac felly mae’r ddadl heddiw yn amserol iawn yn wir. Yng nghyfraniad ystyriol Steffan Lewis, rwy’n credu ei fod yn y bôn wedi cyflwyno’r cyfiawnhad dros y weledigaeth rwyf eisoes wedi’i hamlinellu ar gyfer ein hymagwedd ranbarthol newydd sy’n seiliedig ar le tuag at ddatblygu economaidd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig yn y ddadl hon ein bod yn cydnabod yr heriau, ond hefyd, yn hollbwysig, y cryfderau yn economi’r Cymoedd, er mwyn i ni ddatblygu’r strategaeth honno’n effeithiol, ac wrth edrych ar y data, ein bod yn deall yn union ble y dylid targedu ein hymdrechion cyfunol.
Nawr, er bod gwerth ychwanegol gros y pen yn is na chyfartaledd Cymru yn y Cymoedd canol a Chymoedd Gwent, cynhyrchiant y Cymoedd canol yw’r uchaf yng Nghymru, ond yng Nghymoedd Gwent, mae’r cynhyrchiant yr un fath â chyfartaledd Cymru. Felly, mae’n amlwg—yn hollol amlwg—fod pobl y Cymoedd yn gweithio’n galed. Ond nid ydynt o reidrwydd yn cael yr adenillion a haeddant am y gwaith caled hwnnw.
Mae anweithgarwch economaidd a’r gwaith a wnawn fel Llywodraeth Cymru drwy ein rhaglen gyflogadwyedd newydd yn hanfodol i fynd i’r afael â’r problemau strwythurol yng nghymunedau’r Cymoedd, ac mewn llawer o gymunedau mwy ôl-ddiwydiannol ledled Cymru. Mae diweithdra yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymoedd de Cymru wedi gostwng yn gyflymach na chyfartaledd Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn yr amser hwnnw gostyngodd y gyfradd ddiweithdra ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful 2.8 y cant ac 1.6 y cant yn y drefn honno, ond rydym i gyd yn gwybod bod camu ymlaen yn y gwaith i rai sydd â gwaith yn dal i fod yn broblem fawr, felly hefyd y swm o waith o ansawdd sydd ar gael i bobl. Yn rhy aml rydym wedi gweld gwaith achlysurol o ansawdd gwaeth yn cymryd lle gwaith da, medrus, sy’n talu’n dda, heb fawr o ddiogelwch na sicrwydd ar gyfer y dyfodol. Nid economi wedi’i hachlysuroli yn y modd hwn yw’r dyfodol y mae unrhyw un ohonom ei eisiau ar gyfer cymunedau’r Cymoedd. Rhaid i ni gofio, fodd bynnag, nad un ardal unffurf yw’r Cymoedd wedi’i difetha gan yr un problemau ar draws yr holl gymunedau. Mewn rhai ardaloedd, rydym wedi gweld adfywio’r economi, gan hybu ffigurau cyflogaeth a gwella sgiliau, cyrhaeddiad addysgol, iechyd a lles. Mae enillion yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili yn agos at neu’n uwch na chyfartaledd Cymru, ac mae cyfradd gyflogaeth rhai rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru ar gynnydd, ac yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd y mae’n tyfu gyflymaf.
Mae’r ystadegau diweddaraf hyn yn galonogol iawn, gan ddangos cyfradd gyflogaeth sy’n gwella, yn enwedig yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. Yn nhymor diwethaf y Cynulliad, cafodd bron i 150,000 o swyddi ar draws y gadwyn gyflenwi eu cefnogi neu eu creu gan y Llywodraeth. Roedd llawer o’r rhain yng nghadwyni cyflenwi nifer o sectorau, ac ar draws cymunedau’r Cymoedd, cafodd miloedd lawer o bobl waith o ganlyniad i’n hymyriadau. Nid oes ond angen edrych ar gwmnïau fel General Dynamics i weld y ffydd sydd gan gyflogwyr erbyn hyn mewn gweithwyr medrus ar draws cymunedau’r Cymoedd. Ond rydym hefyd yn gwybod nad yw’r enillion, fel y dywedais yn gynharach, yn y twf economaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gostwng yn gyfartal ar draws Cymru, y DU, neu’r byd yn wir. Mae llawer o gymunedau ym Mlaenau’r Cymoedd yn teimlo nad ydynt yn rhan o stori twf a welsom ar draws y wlad a’r byd. Felly, fel Llywodraeth, rydym yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr amodau economaidd cywir ar gyfer creu a diogelu swyddi cynaliadwy ledled y Cymoedd ac ar draws Cymru yn parhau—swyddi gwell yn nes at adref ym mhob rhan o Gymru.
Y llynedd, sefydlasom dasglu’r Cymoedd i helpu i hybu twf a ffyniant economaidd ar draws yr ardal. Mae’r tasglu’n rhoi cyfle go iawn i gefnogi dull sy’n seiliedig ar gryfderau ac i fanteisio ar gyfleoedd mewn hinsawdd sy’n newid i ddatblygu a thyfu economi’r Cymoedd. Mae gan y tasglu fandad clir iawn i ymgysylltu â’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu ac i gyflwyno cynllun uchelgeisiol, a bydd yn gwneud hynny ym mis Gorffennaf. Bydd yn cynnwys gosod targed o greu 10,000 o swyddi yn y Cymoedd. Ond mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr fod pobl sy’n byw yng ngymunedau’r Cymoedd yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i gystadlu am y swyddi hyn. Dyma pam y mae’r rhaglen gyflogadwyedd hefyd yn hanfodol bwysig. Bydd y tasglu’n gweithio’n agos gydag arweinwyr y fargen ddinesig i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i bobl yn y Cymoedd, a byddwn yn cynnal ein rhaglen fuddsoddi, gan gynnwys gwaith deuoli ar yr A465, y prosiect ffordd mwyaf sy’n cael ei gyflwyno heddiw—prosiect a gafodd ei atal gan Blaid Cymru, ond sy’n cael ei gyflawni gan y Blaid Lafur.
Bydd metro de Cymru, fel y nododd yr Aelodau, yn gatalydd allweddol ar gyfer buddsoddi, a byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid lleol i sicrhau bod buddion twf economaidd yn cael eu cysylltu’n agos â datblygiad y metro.