Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 17 Mai 2017.
Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A wnewch chi gydnabod bod yr ymrwymiad hwnnw’n ymrwymiad a wnaed yn gyntaf gan y Prif Weinidog Ceidwadol, David Cameron? Oherwydd, fel chi, rwy’n falch iawn o’r hyn a gyflawnwyd, a gwn fod y Blaid Lafur wedi cefnogi’r uchelgais hwnnw.