Part of the debate – Senedd Cymru am 6:52 pm ar 17 Mai 2017.
A gaf fi ddweud y bydd y grŵp Ceidwadol yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru hefyd oherwydd ein bod yn credu bod angen i ni gael mynegiant unedig, ar ran y pleidiau eraill o leiaf? Rydym yn dehongli’r alwad am bolisi rhyngwladol cynhwysfawr fel un sy’n gweithio drwy sefydliadau Prydeinig megis y swyddfa dramor a’r Cyngor Prydeinig, rhag ofn y bydd pobl yn meddwl ein bod wedi mynd i ganlyn y weledigaeth fwy, o bosibl, a allai fod gan Blaid Cymru ynghylch annibyniaeth.