Part of the debate – Senedd Cymru am 6:53 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch i chi, David Melding, am dynnu sylw at adroddiad Brandt yn eich cyfraniad, a oedd yn argymell y targed 0.7 y cant. Diolch i chi unwaith eto am ein hatgoffa ynglŷn â’r drefn archwilio a monitro gadarn a thrylwyr, fod 0.01 y cant yn bitw o ran y ffyrdd rydym ni, a Llywodraeth y DU yn wir, yn cyflawni ei rhaglen cymorth rhyngwladol.
Rwyf am nodi ychydig o ffeithiau eto am gymorth rhyngwladol. Mae’r DU yn un o wyth o wledydd yn y byd sy’n cyrraedd y targed gwariant swyddogol ar gyfer cymorth datblygu o 0.7 y cant o incwm gwladol gros. Mae llai na 2c o bob £1 a werir gan y Llywodraeth yn mynd ar gymorth tramor. Affrica sy’n derbyn y gyfran fwyaf o gymorth y DU. Cymorth dyngarol yw’r maes unigol mwyaf o wariant, ac mae’n un rhan o chwech o gyfanswm cymorth dwyochrog. Cafodd cyfran sylweddol o gymorth dyngarol y DU ei wario yn Sierra Leone i helpu gyda’r argyfwng Ebola, yn ogystal ag yn Syria, Yemen a De Swdan.
Mae swyddogaeth economaidd a diplomyddol bwysig i wariant cymorth y DU, swyddogaeth a ddaw’n bwysicach fyth ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Trwy ddarparu cymorth i wledydd i gefnogi eu datblygiad a’u twf parhaus, mae’n helpu i gynyddu cyfoeth eu poblogaeth. Mae gan gymorth rôl i’w chwarae’n sicrhau ac yn sefydlu diogelwch rhyngwladol. Fel y dywedodd Julie Morgan, mae ein plaid, y Blaid Lafur, yn cefnogi’r targed o 0.7. Byddai Llywodraeth Lafur newydd yn parhau i wario 0.7 y cant o incwm gwladol gros ar gymorth datblygu tramor. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod y ffaith fod David Cameron wedi cyflwyno hyn fel blaenoriaeth a pholisi Llywodraeth clir. Ac er mai cyfrifoldeb yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, wrth gwrs, yw datblygu rhyngwladol, mae galwad wedi bod—gwnaeth Steffan Lewis y pwynt hwn—am ymateb Cymreig penodol i ddatblygu rhyngwladol.
Ers dros ddegawd bellach, rydym wedi cael perthynas gref a dwyochrog gyda gwledydd ledled Affrica is-Sahara. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ac annog cannoedd a miloedd o bobl i gymryd rhan mewn cysylltiadau a phrosiectau drwy ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Rwy’n datgan buddiant fel un o ymddiriedolwyr elusen y Fro o Blaid Affrica, sy’n gweithio mewn partneriaeth ag Uganda NGO, gan ysbrydoli a grymuso pobl a sefydliadau yn ardal Tororo gyda phobl a phartneriaid ym Mro Morgannwg. Mae rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn arbennig iawn, gydag egwyddorion partneriaeth yn sail i’r gwaith sy’n seiliedig ar gyd-barch a lles cyffredin. Mae pob prosiect unigol a gefnogir gan y rhaglen wedi dod â llawn cymaint o fudd i Gymru ag i’w bartner yn Affrica. Mae hynny’n digwydd drwy gysylltiadau iechyd a chymunedol; grwpiau masnach deg; diaspora; drwy gyfleoedd datblygiad proffesiynol; gan wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl yng Nghymru ac Affrica. Nid oes amheuaeth fod Cymru, fel gwlad, yn llawer gwell ei byd o ganlyniad i’r rhaglen hon mewn cymaint o ffyrdd, ac mae’r llwyddiannau wedi mwy na gwneud iawn am ei chyllideb gymedrol ac rydym yn haeddiannol falch o’i llwyddiant. Gadewch i ni edrych ar rai o’r cyflawniadau hynny: 500 o brosiectau Cymreig unigryw ar draws 25 o wledydd Affrica; yn 2015 yn unig, elwodd 80,000 o bobl yng Nghymru a 260,000 o bobl yn Affrica ar ein cynllun grantiau bach. Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru o leiaf un cyswllt gweithredol gydag ysbyty yn Affrica. Rydym wedi plannu’r nifer syfrdanol o 5.5 miliwn o goed mewn ardal lle ceir datgoedwigo uchel yn Mbale, man yr ymwelodd John ag ef yn Uganda, fel rhan o’r prosiect 10 miliwn o goed. Mae hyn yn helpu i wella bywydau mwy na 544,000 o ffermwyr Uganda, gan wrthbwyso effeithiau niweidiol newid yn yr hinsawdd. Rydym yn cefnogi mwy na 160 o leoliadau drwy ein rhaglen cyfleoedd dysgu rhyngwladol, ac yn rhannu mwy na 47,000 o oriau o arbenigedd gyda phartneriaid yn Affrica.
Felly, Dirprwy Lywydd, fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn glir ein bod am fod yn genedl sy’n edrych tuag allan, yn agored i syniadau da, ac yn ymwneud â gweddill y byd. Rwy’n credu mai dyna y mae pobl Cymru ei eisiau hefyd: gofal a thosturi tuag at eu cymdogion yma ac ar draws y byd. Rydym wedi cael llawer o sylwadau’n nodi pryder a thystiolaeth ynglŷn â pha mor bwysig yw cymorth rhyngwladol pwysig yma yng Nghymru ac i’r byd. Gan y Groes Goch Brydeinig, Achub y Plant ac Oxfam, rydych i gyd wedi cael eu sylwadau yn eu tystiolaeth heddiw. Cawsom ein hatgoffa’n briodol gan Carol Wardman, o’r Eglwys yng Nghymru, fod dameg y Samariad da, a roddir mewn ymateb i’r union gwestiwn, ‘Pwy yw fy nghymydog?’, yn dangos yn benodol mai ein cymdogion yw’r rhai sydd â’r angen mwyaf, yn enwedig pan nad ydynt yn perthyn i’n llwyth, ein cenedl na’n crefydd ni ein hunain.
Felly, siaradais ar ddechrau fy ymateb ynglŷn â’r rhaniad yma heddiw: rhaniad y mae UKIP wedi’i ddwyn i’r lle hwn. Cyflwynodd UKIP y cynnig hwn i hyrwyddo addewid etholiad culfrydig ei naws, ond yn ffodus, mae cefnogaeth i UKIP i’w weld yn cilio. Dyna pam y byddwn yn parhau i chwarae ein rhan fel dinasyddion byd-eang, yn wlad sy’n edrych tuag allan, yn barod i ffurfio cysylltiadau newydd, ac i estyn llaw i gynorthwyo’r rhai sydd angen cymorth, ac ailddatgan ein diben gwleidyddol a moesol yma heddiw. Felly, gadewch i ni wrthwynebu’r ‘cynnig tila hwn’, fel y dywedodd David Melding, cynnig y mae Simon Thomas yn dweud ei fod yn ‘hala ysgryd arnom.’