Part of the debate – Senedd Cymru am 1:26 pm ar 23 Mai 2017.
Rwyf i a’m teulu, fel mae llawer wedi gwneud heddiw, yn estyn ein cydymdeimlad llwyraf at Julie a'i theulu i gyd yn ystod yr amser anodd hwn, ond rwy’n gobeithio bod rhai o'r teyrngedau heddiw o gysur mawr iddi hi a'i theulu. Daeth cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, i roi tystiolaeth yn bersonol i'n pwyllgor dim ond pythefnos yn ôl, ar gyfer yr ymchwiliad 'Llais cryfach i Gymru', a dangosodd, fel bob amser, ei ymrwymiad parhaus i ddatganoli, ond hefyd ei angerdd a'i ddeallusrwydd, a’i gynhesrwydd a'i ffraethineb a'i ddoethineb, a oedd yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad yn gwasanaethu pobl Cymru.
Ond, yn fy sylwadau byr heddiw, fe hoffwn i ddwyn i gof atgofion personol hoffus am Rhodri: y Rhodri cynnes a diddorol yr oedd pobl yn ei garu oherwydd eu bod yn sylweddoli ei fod yn ddidwyll. Pan oeddwn i’n ysgrifennydd cangen y Blaid Lafur flynyddoedd maith yn ôl, daeth Rhodri i rali Calan Mai ar strydoedd Ystalyfera ar ddiwrnod heulog bendigedig, gan atal y traffig am ugain munud y tu allan i siop papurau newydd Nesta, ac yna brasgamu i lawr y strydoedd gyda band yn chwarae a baneri cyfrinfa’r glowyr yn cyhwfan, a Rhodri wedyn ar gefn lori fy nhad-yng-nghyfraith yn annerch torfeydd ar y cae rygbi, ac yna, fel bob amser, pobl yn heidio ato dim ond i ddweud ‘shwmai’ wrth Rhodri—ac roedd hynny cyn bod sôn am hunluniau.
Roedd torfeydd o’i gwmpas yn un o beryglon y swydd i Rhodri, fel y darganfyddais yn ddiweddarach pan oeddwn i’n Aelod Seneddol. Fy nhasg mewn un etholiad Cynulliad oedd ceisio helpu i hebrwng Rhodri o amgylch canol tref Caerffili. Roedd hi’n anodd symud ymlaen rhyw lawer, gan fod pawb—ie, pawb— yn awyddus i siarad am wleidyddiaeth neu rygbi neu yn syml i ddweud 'helo', fel pe bydden nhw wedi darganfod perthynas coll. Ac roedd Rhodri wrth ei fodd yn siarad hefyd, ac yn gwybod am gysylltiadau teuluol bob yn ail berson a hanes manwl pob stryd ym mhob cymuned.
A pha un o Brif Weinidogion eraill Cymru neu uwch wladweinydd fyddai wedi mentro popeth i fynd i ddigwyddiad codi arian ar gyfer elusen leol yn Dylan’s ym Maesteg, fy nhref enedigol, lle’r oedd un o gyfeillion bore oes Rhodri yn perfformio'n fyw ar y llwyfan? Yn ystod y perfformiad, cafodd Rhodri wahoddiad i fynd i fyny ar y llwyfan i gymryd rhan. Roedd yn berfformiad eithaf anghyffredin. Felly, roeddem ni i gyd yn gwylio gyda phryder cynyddol wrth i Rhodri orwedd ar wely o hoelion chwe modfedd, ac, i goroni’r cwbl, yn caniatáu i'r perfformiwr gerdded drosto. Roedd y penawdau yn ysgrifennu eu hunain yn fy meddwl cythryblus i.
Yn bersonol, ac rwy’n gwybod na fyddaf ar fy mhen fy hun yn dweud hyn, byddaf yn cofio am y modd anhunanol y gwnaeth fy annog i a phobl eraill i ysgwyddo cyfrifoldeb gwasanaeth cyhoeddus ac i sefyll etholiad. Gallaf ddweud yn onest na fyddwn i wedi gwneud hynny heb ei ddyfalbarhad tyner ond llawn perswâd fod hon yn alwedigaeth gwerth ei dilyn, ac, yn bwysig, gwnaeth hefyd berswadio fy ngwraig y dylwn i. Nid wyf i erioed wedi difaru, yn bennaf oherwydd fy mod i, ac eraill, yn parhau i edmygu pobl fel Rhodri fel esiampl o rywun sydd wedi rhoi gwasanaeth cyhoeddus gydol oes yn San Steffan ac yma yng Nghymru.
Mae cyrraedd yr uchelfannau gwleidyddol fel y gwnaeth ef, ac eto llwyddo i gadw’r cysylltiad cyffredin mewn modd mor rhwydd, yn dangos mesur y dyn a'r cyfaill yr ydym wedi ei golli. Gadawodd rhywbeth gwych a pharhaol ar ei ôl. Roedd Rhodri Morgan yn un o wir weision Cymru ac yn gyfaill triw i bawb yr oedd yn eu hadnabod.