Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 23 Mai 2017.
Prif Weinidog, mae’n bwysig ein bod ni yn gwella gwasanaethau iechyd yn sir Benfro yn y 12 mis nesaf er mwyn dechrau mynd i’r afael â gordewdra oherwydd, yn anffodus, mae cyfraddau gordewdra yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda wedi cynyddu o gymharu â byrddau iechyd eraill. Nawr, rydw i’n derbyn bod y Cynulliad wedi pasio Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn ddiweddar, sy’n mynd i helpu i fynd i’r afael â phroblemau gordewdra. Ond a allwch chi ddweud wrthym ni pa fesur penodol y mae’r Llywodraeth yn golygu ei gyflwyno yn y flwyddyn nesaf er mwyn dechrau mynd i’r afael â phroblemau gordewdra?