Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 23 Mai 2017.
Wel, wrth gwrs rydym ni wedi ystyried hwn o’r blaen, ond mae’n wir dweud bod yna fwy i’w wneud. Byddwn yn adeiladu ar y Ddeddf ei hun er mwyn sicrhau bod yna strategaethau yn cael eu dodi yn eu lle er mwyn delio â’r broblem hon. Mae’n broblem nad sydd ond yng Nghymru ond ym mhob gwlad gyfoethog yng ngorllewin Ewrop, ac mae’n rhywbeth sydd yn codi nawr mewn rhai gwledydd eraill lle nad yw wedi cael ei weld o’r blaen.